Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae’n anodd dewis ble i ddechrau mewn dinas mor brysur, ond peidiwch â phoeni, rydyn ni wedi gwneud y gwaith caled i chi.  

1. Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd

Cardiff National Museum @VisitWales
Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd

Mae’r amgueddfa hudolus yma’n cynnwys ystod o eang o gelf, hanes naturiol, archeoleg a daeareg.

Ochr yn ochr ag un o gasgliadau celf gorau Ewrop, gallwch ddysgu am hanes, bywyd gwyllt a daeareg Cymru, cerdded gyda deinosoriaid maint go iawn a dysgu sut y crëwyd ein planed.

Wedi’i lleoli yng nghanolfan ddinesig hyfryd y ddinas, mae’r amgueddfa hefyd yn gartref i arddangosfeydd mawr dros dro ac yn cynnig rhaglen wych o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

2. Castell Caerdydd

Castell Caerdydd
Castell Caerdydd

Er ei fod wedi’i leoli yng nghanol y ddinas, mae’r castell yma yn teimlo fel byd ar wahân – llonyddwch llwyr tu fewn i’r muriau hynafol.

Dysgwch am ei wreiddiau Rhufeinig, y trawsnewidiad Gothig anhygoel yn y 19eg ganrif a'i ran yn yr Ail Ryfel Byd. Dringwch i fyny Dŵr y Cloc a diflannwch i’r twneli, neu arhoswch iddi noswylio er mwyn mwynhau gwledd Gymreig.

3. Amgueddfa Caerdydd 

Yn adeilad hyfryd yr Hen Lyfrgell, mae’r amgueddfa yma yn datgelu hanes Caerdydd a'i thrawsnewidiad o dref farchnad fach yn y 1300au i un o borthladdoedd mwyaf y byd yn y 1900au, ac ymlaen i’r brifddinas heddiw.

Mae’r orielau rhyngweithiol yn defnyddio straeon y bobl oedd yn byw ac yn gweithio yn y ddinas dros y canrifoedd i ddod â’r hanes yn fyw.

4. Arcedau Fictoraidd

Mae arcedau Fictoraidd Caerdydd wedi’u cadw’n hyfryd ac yn cynnig profiad siopa gwahanol i’r arfer o dan doeon gwydr bendigedig.

Porwch drwy siopau hen ddillad, crefft a chaffis yn Ardal y Castell, neu siopau gemwaith a llefydd bwyta annibynnol yn yr Arcedau Brenhinol, Wyndham a Morgan.

Arcedau Fictoraidd, Caerdydd
Arcedau Fictoraidd

Mae arcedau Fictoraidd Caerdydd wedi’u cadw’n hyfryd ac yn cynnig profiad siopa gwahanol i’r arfer o dan doeon gwydr bendigedig.

Porwch drwy siopau hen ddillad, crefft a chaffis yn Ardal y Castell, neu siopau gemwaith a llefydd bwyta annibynnol yn yr Arcedau Brenhinol, Wyndham a Morgan.

5. Techniquest

Cadwch ddwylo bach yn brysur gyda’r arddangosfeydd yn y ganolfan gwyddoniaeth hynaf yn y DU ym Mae Caerdydd.

Mwynhewch sioe Theatr Wyddonol neu ewch ar daith drwy’r gofod gyda thaith sêr syfrdanol y Planetariwm.

6. Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Cardiff International White Water @VisitWales
Cardiff International White Water 

Mae’r ganolfan yma yn cynnig amrywiaeth gynhwysfawr o weithgareddau dŵr... am roi cynnig ar rafftio, canŵio, corff-fyrddio neu badlfyrddio? Dyma’r lle i chi. Mae hefyd weithgareddau ychwanegol oddi ar y safle fel cerdded ceunentydd a llogi beiciau. Diwrnod egnïol tu hwnt!

7. Penarth

Mwynhewch yr awyr iach wrth gerdded o Fae Caerdydd i dref lan y môr hyfryd Penarth.

Unwaith i chi gyrraedd, dewiswch damaid o fwyd ym Mhafiliwn y Pier, sy’n cynnwys oriel, sinema, caffi a bwyty.

Taith Taf
Taith Taf

Teithiwch ar droed neu ar feic o Gaerdydd i Bontypridd ar y llwybr yma drwy barciau trefol gwyrddion a nefoedd gwledig.

Gan ddilyn yr Afon Taf, byddwch chi’n gweld coredau, bywyd gwyllt, mynyddoedd a Chastell Coch.

Ewch â phicnic i’w fwynhau ar y ffordd ond cofiwch gadw lle ar gyfer te a phice ar y maen yn nhref ddiwydiannol Pontypridd.

9. Bae Caerdydd

Bae Caerdydd

Treuliwch ddiwrnod amrywiol yn archwilio safleoedd treftadol Bae Caerdydd. Dechreuwch gyda mordaith ar yr Aqua Bus, gan fwynhau golygfeydd o Gei’r Fôr-forwyn, gwarchodfa natur y gwlypdir a’r morglawdd.

Yna galwch heibio yn y Senedd, cartref Llywodraeth Cymru ac un o'r adeiladau seneddol mwyaf ecogyfeillgar yn y byd, cyn ymweld â Chanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd, lle gallwch chi ymlacio dros ginio blasus.

10. Eglwys Gadeiriol Llandaf a’r Pentref 

O fewn tafliad carreg i’r ddinas, mae’r eglwys gadeiriol yn sefyll yn hen ddinas Llandaf. Mae hanes brith gan yr adeilad; dioddefodd frwydrau a thywydd garw o'r 1400au hyd at yr Ail Ryfel Byd. Bydd tywyswyr gwybodus wrth law i’ch helpu i adnabod yr hen a’r newydd a rhoi cyfle i chi fyfyrio yn yr heddwch y tu mewn.

Yn y pentref hyfryd, mae digonedd o gaffis a thafarndai annibynnol neu gallwch brynu picnic a chrwydro gerddi hen Balas yr Esgob.