Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ar ôl noson allan hwyr dewch o hyd i rywle agos a chyfforddus i orffwys ynddo. 

FUTURE INN, BAE CAERDYDD

Hemingway Road, Caerdydd, CF10 4AU
+44 (0)29 2048 7111

Future Inn, Bae Caerdydd, yw ein gwesty 4 seren ddewisol yng Nghaerdydd.
Mae ganddo 197 ystafell wely gyfforddus gydag ystafell ymolchi, a’r holl gyfleusterau a ddisgwylir o westy 4 seren.

• Parcio am ddim
• 5 munud ar droed o Ganolfan Mileniwm Cymru
• Wi-Fi am ddim

Mae’n bleser gan Future Inns gynnig pris arbennig, gyda gostyngiad o 20% i’n cwsmeriaid. Byddwn yn cynnwys yr cod yn eich e-bost archeb ynghyd â dolen i'w gwefan i archebu.

GWERSYLL YR URDD CAERDYDD

Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL
029 2063 5678

Canolfan breswyl ddinesig yw Gwersyll yr Urdd Caerdydd.
Mae lle i 153 o bobl i aros dros nos mewn ystafelloedd en-suite. Mae hefyd neuadd / theatr aml bwrpas gyda’r cyfleusterau technolegol diweddaraf ynghyd â lolfeydd, neuadd fwyta, ystafelloedd cyfarfod ac ystafelloedd dosbarth.

Crëwyd y Gwersyll gyda diogelwch plant a phobl ifanc fel blaenoriaeth ac mae holl staff y ganolfan wedi’u gwirio gan y CRB. Mae gwyliwr nos ar ddyletswydd, system gloeon electroneg ar y drysau ac mae camerâu cylch cyfyng ar waith.