Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Helpwch ni gadw’r fflam greadigol ynghyn yng Nghymru drwy archebu anrheg hudolus i’ch anwyliaid sy’n caru theatr.

Drwy brynu Taleb Rhodd, Aelodaeth Rhodd neu Enwi Sedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, nid yn unig fyddwch yn codi gwên, ond byddwch yn cefnogi canolfan gelfyddydau genedlaethol Cymru a’r cymunedau a phobl ifanc rydyn ni'n yn cydweithio â nhw.

Tystysgrifau Rhodd

Gormod o ddewis? Dim problem, mae ein tystysgrifau rhodd yn ddilys am 18 mis, a gellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw sioe neu yn ein bariau theatr.

Darllenwch ein telerau ac amodau cyn prynu.

Aelodaeth Rhodd

Perffaith i garedigion y theatr, mae ein haelodaeth Ffrind yn cynnig buddion gwych drwy gydol y flwyddyn. Prynwch Aelodaeth Rhodd er mwyn rhoi’r buddion canlynol…

  • Archebu â blaenoriaeth: dewiswch eich seddi cyn y cyhoedd
  • Gostyngiad o 20% ym mariau’r theatr a’n teras
  • Seddi am bris is tocynnau ecsgliwsif yn arbennig i chi
  • Diweddariadau e-bost rheolaidd ynglŷn â’n sioeau a digwyddiadau diweddaraf

Mae ein cynllun aelodaeth Partner yn dod â’n haelodau’n agosach at y celfyddydau, ac yn ein helpu ni weithio fwyfwy â phobl ifanc a chymunedau a meithrin doniau Cymreig. Yn ogystal â’r buddion uchod, mae aelodau Partner yn cael:

  • Mynediad i’r seddi gorau cyn ein haelodau Ffrind
  • Gwahoddiad i ddigwyddiadau arbennig bob blwyddyn
  • Mynediad i far a lolfa breifat i aelodau
  • Cydnabyddiaeth o’ch cymorth ar blatfformau digidol amrywiol

Enwi Sedd

Enwi Sedd

Ydych chi’n chwilio am anrheg tra gwahanol? Beth am enwi sedd yn ein theatr eiconig? Mae’n ffordd barhaol o ddangos eich cariad a’ch edmygedd neu ddathlu bywyd unigolyn arbennig.

Digwyddiadau arbennig ac unigryw

Ymaelodwch heddiw am lwyth o fuddion gwych