Efallai eich bod chi wedi sylwi bod prisiau tocynnau yn gallu amrywio rhwng perfformiadau yn y Theatr Donald Gorden oherwydd system optimeiddio prisiau parhaus tra bod sioeau ar werth. Drwy addasu prisiau tocynnau mewn ymateb i ffactorau fel galw a faint o seddi sydd ar gael, gall Canolfan Mileniwm Cymru optimeiddio incwm o ddigwyddiadau poblogaidd.
Rydyn ni’n elusen, felly mae’r incwm yma o docynnau yn cefnogi ac yn meithrin y celfyddydau yng Nghymru yn uniongyrchol. Gallwch chi ddarllen am ein prosiectau creadigol gyda phobl ifanc, artistiaid a’r gymuned genedlaethol yn yr adran Yr Hyn a Wnawn.
Fel cartref creadigol i bawb, rydyn ni eisiau sicrhau y gall unrhyw un gael mynediad at y celfyddydau, beth bynnag fo’u cefndir neu amgylchiadau. Felly, rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau i sicrhau bod ystod hygyrch a theg o seddi ar gael lle y bo’n bosibl. Drwy gynnal y cydbwysedd yma, rydyn ni’n gallu rhoi cyfle i fwy o bobl brofi perfformiadau o safon fyd-eang tra ein bod ni’n creu model cyllid cynaliadwy i ariannu ein rhaglenni sy’n darparu profiadau creadigol arloesol a chyfleoedd i bawb.
Rydyn ni hefyd yn dyrannu miloedd o docynnau ‘Talwch beth y gallwch’ wedi’u clustnodi i grwpiau a chynulleidfaoedd cymunedol. Mae’r cynllun tocynnau wedi’u targedu yma, sy’n cael ei weithredu drwy ein rhwydweithiau sefydledig, yn caniatáu i ni roi cyfle i fwy o bobl brofi perfformiadau byw hudol.
Mae popeth a brynwch yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn helpu i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru. Diolch.