Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ffwrnais

Ffwrnais yw ein bar-caffi prydferth sy’n gweini lluniaeth o frecwast i ddiod noswylio, ac mae’n lle perffaith i weithio, cyfarfod, ymlacio – ac wrth gwrs, dreulio noson gofiadwy gyda ni.

Dysgwch fwy am Ffwrnais  

Caffis a bariau

Mwynhewch ddiod cyn sioe yn un o fariau’r theatr neu sgwrsiwch â ffrindiau dros goffi yn Caffi.

Darganfyddwch ein caffis a’n bariau 

Siop

Dewch i ymweld â’n siop. Rydyn ni’n gwerthu nwyddau swyddogol Canolfan Mileniwm Cymru a grëwyd gan artistiaid – gan gynnwys crysau t, bagiau cario, offer ysgrifennu a mwy, printiau gan arlunwyr lleol a’n siocled ein hunain gan Wickedly Welsh Chocolate

Dyma’r lle perffaith i brynu cofrodd, ac mae hefyd yn fan gwybodaeth ac yn ystafell gotiau.

Mae popeth a brynwch yn helpu i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru.

Ble: Mae Siop wedi’i leoli ar y llawr gwaelod ar ochr ogleddol yr adeilad.

Amseroedd agor: Ar agor bob dydd o 9am (10am ar ddydd Sul)

Anrhegion

Helpwch ni gadw’r fflam greadigol ynghynn yng Nghymru drwy archebu anrheg hudolus i’ch anwyliaid sy’n caru theatr.

Drwy brynu taleb rhodd, aelodaeth rhodd neu drwy enwi sedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, nid yn unig fyddwch chi’n codi gwên, ond byddwch chi hefyd yn ein helpu ni i danio’r dychymyg a bod yn gartref creadigol i bawb.

Rhowch theatr fel anrheg