Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Amser i Wledda

Mae nifer o brydau arbennig ar gael i chi eu mwynhau yn ffresh; o swper rhamantus Dydd San Ffolant, i gynigion brecinio gwych cyn gemau’r Chwe Gwlad.

CYNIGION DYDD SAN FFOLANT

28 Ionawr – 14 Chwefror, 2019

Ymgollwch yn llwyr ym myd y cariadon gyda’n pryd tri chwrs arbennig ar gyfer Dydd San Ffolant. £50 i ddau, gan gynwys potelaid o swigod am ddim.

Mae ein bwydlen San Ffolant ar gael 28 Ionawr – 14 Chwefror, 2019, rhwng 5 a 10pm.

Mae ein prif fwydlen (à la carte) hefyd ar gael i’w harchebu ar-lein, ond nid yw’n cynnwys potelaid o win neu swigod. Dim ond gyda’n pecyn £50 mae’r cynnig hwn ar gael.

CYNIGION Y CHWE GWLAD

Chwefror 23 a Mawrth 16, 2019

Photo @ Principality Stadium

I ddathlu dwy o’r gemau cartref mwyaf o gyfres y Chwe Gwlad eleni – Lloegr ac Iwerddon – mae gennym gynigion gwych am frecinio a chinio.

Ar gyfer gêm Cymru v Lloegr ar Chwefror 23 (12 – 3pm) byddwn yn gweini cinio bwffe blasus, ac yn cynnig brecinio gyda gwasanaeth bwrdd ar gyfer gêm Cymru v Iwerddon ar Fawrth 16 (11am – 1pm).

Ymunwch â ni am ginio dydd Sul hamddenol, a mwynhewch tamaid o gerddoriaeth jazz byw ar yr un pryd.

Mae dewis o dri cinio rhost, yn cynnwys opsiwn llysieuol o courgette Sisilaidd wedi’i bobi. Prisiau fesul person: un cwrs am £11.95, dau gwrs am £16.95 neu dri chwrs am £19.95.

Archebwch fwrdd

*Archebwch ginio dydd Sul tri chwrs ac fe gewch botel o win am ddim (hyd ddiwedd mis Chwefror).