Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Sgwrsiwch â ffrindiau, dewch i gynnal cyfarfod gwaith neu ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd dros baned neu un o’n cacennau a bobir yn lleol.

Sychedig? Dechreuwch eich noson gyda diodydd cyn ac ar ôl y sioe gyda'ch ffrindiau a'ch teulu. Gallwch nawr hefyd fynd â'ch diodydd i mewn i'r theatr.

CAFFI

Caffi yw ein siop goffi yn y Glanfa sy'n gweini diodydd poeth ac oer, cwrw, gwin a byrbrydau.

AMSEROEDD AGOR

Dydd Sadwrn a Dydd Sul, 11am – 4pm

BARIAU THEATR

Agorwch fap o’n bariau

Mae pob un o'n bariau'n agor awr cyn i'r sioe ddechrau felly os ydych chi'n gweld sioe yn Theatr Donald Gordon, gallwch chi fwynhau diod cyn y perfformiad neu yn ystod yr egwyl yn un o'n bariau theatr trawiadol gyda ffenestri sy'n edrych allan drwy'r llythrennau ar flaen yr adeilad.

Mae Bar Glamorgan Brewery ar Lefel 2, ac yn gefndir prydferth iddo mae arysgrif trawiadol yr adeilad; mae Bar Horizons ar Lefel 4 ac mae ganddo olygfa rannol o'r arysgrif – mae'n gyfleus i seddi'r cylch; un o nodweddion Bar Stones yw ei nenfwd crwm anghyffredin ac mae'n agos at seddi'r cylch uchaf.

DIODYDD I’R EGWYL

Ydych chi'n mynd i wylio sioe heno? Gallwch chi osgoi’r ciwiau drwy archebu'ch diodydd ar gyfer yr egwyl ymlaen llaw. Gallwch chi archebu ar-lein wrth brynu eich tocynnau neu archebu cyn y sioe ym mariau’r theatr a’u casglu o’r silffoedd ar naill ochr y bar i osgoi ciwio.

Ni ellir rhagarchebu diodydd i’r egwyl yn Ffwrnais ar hyn o bryd, ond bydd y bar ar agor fel arfer yn ystod yr egwyl.

Mae aelodau’n cael mwy. Dewch yn aelod Ffrind heddiw i gael gostyngiad o 20% ar ddiodydd yn Ffwrnais, Caffi a’n bariau theatr.

Gan ein bod yn elusen, mae popeth a brynwch yn Ffwrnais, Caffi a’n bariau theatr yn helpu i ariannu ein cenhadaeth i roi mynediad gwell i’r celfyddydau i’r rhai sydd ei angen fwyaf. 

BAR ONE

Mae'r bar cyfoes yma sydd dros ddau lawr yn gweini coffi a gwin, ac mae ganddo olygfeydd godidog dros Fae Caerdydd yn ogystal â seddi tu allan.

Amseroedd agor: 10am – 11pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a 10am – 10.30pm ddydd Sul.

Rydyn ni’n gweithredu polisi o ofyn am brawf oedran 25+ yn ein bariau.