Wedi'i hysbrydoli gan siâp eiconig ein hadeilad a'r llysenw sy'n cael ei ddefnyddio gan drigolion Caerdydd, mae Armadilo yn fwy na siop – mae'n dathlu creadigrwydd, diwylliant a chymuned Gymreig.
Wedi'i lleoli tu fewn i Ganolfan Mileniwm Cymru, Armadilo yw eich lleoliad newydd ar gyfer popeth yn ymwneud â siopa. O eitemau cartref a ffasiwn i offer ysgrifennu ac anrhegion, mae stori gan bopeth, yn arddangos gwneuthurwyr a dylunwyr anhygoel o Gymru a thu hwnt. Gallwch chi ddisgwyl profiad siopa heb ei debyg, gyda pethau unigryw, cynllun meddylgar a digonedd i syrthio mewn cariad â nhw. P'un a ydych chi'n prynu ar gyfer chi eich hun neu rywun arall, rydych chi'n sicr o adael gyda rhywbeth prydferth.
Beth Fyddwch Chi'n Ei Ddarganfod
O offer cartref i emwaith cyfoes, danteithion moethus i anrhegion unigryw, mae pob eitem yn Armadilo wedi cael ei dewis yn ofalus i ysbrydoli. Mae'r siop yn cynnwys cymysgedd amrywiol o frandiau mawr a darnau prydferth wedi'u crefftio na fyddwch chi'n eu gweld ar y stryd fawr – gan gynnwys nifer o gydweithrediadau arbennig sydd ond ar gael yng Nghanolfan Mileniwm Cymru:
- Cannwyll bersawrus Armadilo, wedi'i chreu gan Florence Green
- Gemwaith llechi wedi'i ailbwrpasu o ddeunyddiau'r adeilad ei hun, gan Tŷ Picl
- Print Caerdydd risograff trawiadol, yn cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, gan yr artist Charlotte Hepburn
Mae'r brandiau eraill yn cynnwys Jellycat, Hudson Blu, Earth and Elm, Ewemoo, The Pillow Drop, Abigail Ahern, Powder, Ask Mummy and Daddy, Melin Tregwnt, House of Marbles, Blue Iris Designs a llawer mwy, yn cynnig popeth o addurniadau i ategolion moethus i'ch anifail anwes.
Prynu Mewn Ffordd Ystyriol
Mae Armadilo yn fwy na siop. Mae popeth a brynwch yn helpu i ariannu'r dyfodol. Mae'r holl elw yn mynd yn syth yn ôl i waith Canolfan Mileniwm Cymru yn cefnogi pobl ifanc, meithrin doniau creadigol a sicrhau bod yr adeilad yn parhau i fod yn gartref croesawgar i bawb yn y gymuned.
Cliciwch isod am y Canllaw Rhoddion Armadilo
Ymweld â ni
- Llawr gwaelod Canolfan Mileniwm Cymru
- Ar agor yn ddyddiol. 10am–5pm ac eithrio diwrnodau sioe, pan gall ymwelwyr fwynhau'r siop tan 7.30pm