O brynu e-docynnau ar gyfer perfformiadau sydd wedi'u hail-drefnu, a sut i'n cefnogi ni tra bo'n hadeilad ar gau... Cymerwch gipolwg ar ein cwestiynau cyffredin.
Newyddion diweddaraf ynglŷn â Choronafeirws, sioeau a digwyddiadau?
Mae Canolfan Mileniwm Cymru ar gau i’r cyhoedd oherwydd pandemig y Coronafeirws. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i benderfynu pryd y gallwn ailagor yn ddiogel. Rydyn ni’n cysylltu â deiliaid tocynnau’n uniongyrchol ynglŷn â’r sioeau hynny sydd wedi’u canslo neu’u gohirio, i drefnu ad-daliadau neu i gyfnewid tocynnau.
Gweler y newyddion diweddaraf am sioeau a digwyddiadau ar ein gwefan. Rydyn ni hefyd yn rhannu diweddariadau drwy ein cyfryngau cymdeithasol.
Diolch i chi am eich amynedd a’ch cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod heriol yma.
Rydw i am gefnogi Canolfan Mileniwm Cymru, beth alla i ei wneud?
Sut gallwch chi helpu:
- Cyfrannwch holl gost neu ran o gost eich tocyn os yw'ch perfformiad wedi'i ganslo. Bydd hyn hefyd yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth.
- Prynwch daleb rhodd i'w defnyddio ar gyfer perfformiadau yn y dyfodol pan fyddwn yn ailagor. Mae talebau'n ddilys am 18 mis.
- Ymunwch neu adnewyddwch eich aelodaeth â'n cynlluniau aelodaeth Ffrind a Partner. Nid yn unig byddwch yn ein helpu ni, ond cewch flaenoriaeth wrth archebu tocynnau ar gyfer y sioeau sy'n mynd ar werth tra'n bo ni ar gau, a chewch fwynhau'r holl fanteision drwy gydol y flwyddyn pan fyddwn ni'n ailagor.
- Prynwch docyn ar gyfer sioe sy'n digwydd yn nes ymlaen. Ewch i'n tudalen Digwyddiadur i gael rhagor o wybodaeth.
- Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw rodd, waeth pa mor fawr neu fach.
A YW EICH BARIAU A'CH CAFFIS AR AGOR?
Mae ein bariau a'n caffis ar gau ar hyn o bryd. Mae costau gweithredol o agor yr adeilad (staffio, glanhau, diogelwch ayyb) yn rhy uchel i agor cyfleusterau bach fel barrau a chaffis yn unig. Fodd bynnag, rydyn ni’n edrych ar sut y gallwn eu hailagor yn ddiogel wrth i ni ailagor yr adeilad yn raddol
A fydd mesurau diogelwch yn weithredol pan fyddwch yn ailagor?
Yn bendant, fe fydd mesurau diogelwch yn weithredol wrth i ni groesawu ein cynulleidfaoedd a’n hymwelwyr yn ôl. Mae’n debygol y bydd y mesurau’n amrywio wrth i ni ailagor yn raddol. Bydd y mesurau yn ddarostyngedig i ganllawiau Llywodraeth Cymru.
MAE GEN I DALEB SY'N DOD I BEN TRA EICH BOD AR GAU. BETH DDYLWN I EI WNEUD?
Mae'r holl dalebau cyfredol wedi'u hymestyn i fod yn ddilys am 18 mis a gellir eu defnyddio mewn unrhyw ddigwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn y dyfodol, felly nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Nid oes gan y dyddiad dod i ben unrhyw gydberthynas â dyddiad y perfformiad yr hoffech
Mae gen i docynnau ar gyfer sioe sydd wedi'i chanslo, a fydda i'n derbyn ad-daliad?
Byddwch. Bydd hawl gennych i ad-daliad llawn. Caiff yr ad-daliad ei brosesu'n awtomatig. Nid oes angen i chi gysylltu â ni.
Oes modd prynu tocynnau tra bo'r adeilad ar gau?
Oes. Mae tocynnau ar werth ar-lein ar gyfer perfformiadau sydd ar y gweill, a byddwn wrth ein boddau yn eich croesawu'n ôl pan rydyn ni'n gallu ailagor yn 2021.
Gwybodaeth a dyddiadau newydd ar gyfer y sioeau a aildrefnwyd?
Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am sioeau sydd wedi’u haildrefnu yn ein blog. Rydyn ni’n diweddaru’r blog yn rheolaidd.
Roedd gen i docynnau ar gyfer digwyddiad sydd wedi'i ganslo. Beth ddylwn i ei wneud?
Does dim angen i chi wneud unrhyw beth. Byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol â phobl sydd wedi archebu tocynnau, a bydd ad-daliad yn cael ei wneud i'r cerdyn gwreiddiol.
Mae gen i docynnau ar gyfer digwyddiad sydd wedi cael ei aildrefnu. Beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych yn hapus gyda'r dyddiad newydd, bydd eich tocynnau'n cael eu trosglwyddo'n awtomatig a does dim angen i chi wneud unrhyw beth.
Mae gen i docynnau ar gyfer digwyddiad sydd wedi cael ei aildrefnu. A fyddwch chi'n cyhoeddi tocynnau newydd?
Mae eich hen docynnau yn dal yn ddilys, ond os hoffech gael fersiynau gyda'r dyddiadau newydd, gallwch ailanfon eich e-docynnau i'ch dyfais symudol neu'ch cyfeiriad e-bost yma. Ni allwn anfon tocynnau drwy'r post tra bo'n hadeilad ar gau.
Nid wyf wedi derbyn ad-daliad eto?
Mae ad-daliadau ar gyfer digwyddiadau a ganslwyd yn cael eu had-dalu'n awtomatig i ddeiliad y cerdyn gwreiddiol. Gwiriwch eich cyfriflen banc cyn cysylltu â ni. Mewn achosion lle nad oedd manylion y cerdyn ar gael, byddwch yn derbyn taleb credyd sy'n ddilys am 18 mis o'r dyddiad cyhoeddi.
Nid yw'r cyfrif gwreiddiol yr archebais drwyddo yn weithredol bellach. Beth ddylwn i ei wneud?
Os yw'r cyfrif wedi'i gau yn llwyr, cysylltwch â ni drwy e-bost gyda'ch rhif archeb a bydd modd i ni drefnu ad-daliad drwy ddull arall. Os yw'r cyfrif yn dal i fod yn weithredol, ac mai dim ond y cerdyn sy'n newydd, bydd yr ad-daliad yn dal i allu cael ei brosesu'n llwyddiannus i'r cyfrif.
A fydda i'n cael ad-daliad ar gyfer fy nhalebau parcio, diodydd a/neu raglen?
Byddwch. Bydd pob archeb ar gyfer digwyddiadau a ganslwyd yn cael eu had-dalu'n llawn, er mae'n bosib y caiff y rhain eu prosesu fel trafodion ar wahân.
Archebais docynnau drwy drydydd parti (e.e.Disney Tickets/Ticketmaster). Beth ddylwn i ei wneud?
Bydd y pob cwmni'n cysylltu ag archebwyr tocynnau cyn gynted ag y bo modd, ond os nad ydych wedi clywed ganddyn nhw am berfformiad penodol, bydd angen i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol.
Digwyddiadau arbennig ac unigryw
Ymaelodwch heddiw am lwyth o fuddion gwych