Bydd ein mapiau a'n fideos hygyrch yn eich helpu chi i ddod o hyd i ni ac i ffeindio'ch ffordd o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru.
SUT I GYRRAEDD Y GANOLFAN
Rydyn ni wedi ein lleoli ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd, a gallwch ein cyrraedd ni naill ai mewn car, ar drên, ar fws, ar feic neu hyd yn oed mewn cwch.
Ein cyfeiriad yw: Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd, CF10 5AL
Gwyliwch fideo o'r daith ar droed o orsaf drenau Bae Caerdydd i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Gwyliwch fideo o'r daith ar droed o'r arhosfan bws i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Gwyliwch fideo o'r daith ar droed o faes parcio Q-Park i Ganolfan Mileniwm Cymru.
YR ADEILAD
LLWYTHWCH AP UCAN GO I LAWR
Cafodd yr ap ei gynllunio'n wreiddiol ar gyfer ymwelwyr dall neu rannol ddall, ond mae modd i unrhyw un sydd angen ffeindio'u ffordd o amgylch yr adeilad ei ddefnyddio.
Mae'r ap yn dangos taith weledol gam wrth gam a sain ddisgrifiad i chi fel bod modd i chi ddod o hyd i'ch sedd, y tai bach agosaf, bariau, siopau a gwasanaethau eraill sydd ar gael yn yr adeilad.
Mae'r ap ar gael am ddim i'w lwytho ar ddyfeisiau iOS Apple yn unig, nid yw'r ap ar gael yn Gymraeg.
LLWYTHO MAPIAU A CHANLLAWIAU I LAWR
Map o'r adeilad a'n cyfleusterau
Safleoedd parcio ceir i'r anabl o amgylch y Ganolfan