Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Os ydych chi'n unigolyn neu'n sefydliad, dyma sut i gael gafael ar docynnau am ddim i ofalwr neu gymar.

YMUNWCH â HYNT

Cynllun hygyrchedd cenedlaethol yw Hynt sy’n gweithio gyda rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydol ledled Cymru.

Fel aelod o rwydwaith Hynt, rydyn ni’n cynnig tocyn am ddim i ddeiliaid cerdyn Hynt ar gyfer eu cymar, gofalwr neu gynorthwyydd personol. 

Mae Hynt wedi’i reoli mewn partneriaeth â Creu Cymru a Diverse Cymru; gallwch chi wneud cais i ymaelodi ar wefan Hynt.

ARCHEBU TOCYNNAU GYDA CHERDYN HYNT

Gallwch chi archebu eich tocynnau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, gan roi eich cyfeirnod Hynt unigryw wrth archebu.

Os ydych wedi archebu tocynnau gyda ni yn flaenorol ac mae rhif cod bar Hynt cymwys yn gysylltiedig â’ch cyfrif, gallwch chi hefyd archebu tocynnau ar-lein.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mewngofnodi i’ch cyfrif gyda’r cyfeiriad e-bost cofrestredig cyn dewis y cynhyrchiad yr hoffech ei weld o‘r dudalen Digwyddiadur. Os nad oes gennych gyfrif ar-lein gyda Chanolfan Mileniwm Cymru yn barod, gallwch chi greu un yma. Nodwch y gall gymryd hyd at 24 awr i Hynt ymddangos ar eich cyfrif.

Gall gofalwr, cymar, cynorthwyydd personol neu drefnydd grŵp archebu ar ran deiliad cerdyn Hynt, ond mae’n rhaid i’r tocynnau gael eu hanfon i ddeiliad y cerdyn, a rhaid i’r unigolyn ddangos ei gerdyn Hynt ffotograffig dilys bob tro y bydd yn dod i weld perfformiad.

Bydd nifer y tocynnau Hynt sydd ar gael i chi ar-lein yn cyfateb i’r nifer a gytunwyd gyda Hynt yn ystod y broses o wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun. Sicrhewch os gwelwch yn dda eich bod wedi dewis y nifer cywir o docynnau ar gyfer pob aelod o’ch grŵp.

CYNLLUN HYGYRCHEDD AR GYFER SEFYDLIADAU

Cynllun hygyrchedd yw Hynt sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer cwsmeriaid anabl unigol, ac nid yw'n cwmpasu archebion gan sefydliad fel cartref gofal preswyl neu hosbis.

Os ydych chi’n gyfrifol am ofal a llesiant grwpiau o bobl anabl na fydden nhw'n gallu ymweld â ni fel arall, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i ni a chwblhau asesiad risg.

Mae'r meini prawf ar gyfer seddi am ddim yn seiliedig ar asesiadau risg gan arweinydd y grŵp.

E-bostiwch hygyrchedd@wmc.org.uk i wneud cais am y cynllun.

Mae Diverse Cymru, Celfyddydau Anabledd Cymru, Cyngor Cymru i'r Deillion a Sefydliad y Deillion Caerdydd a'r Fro a'r Cymoedd yn cefnogi ein cynllun hygyrchedd sefydliadol.