Mae 17 safle parcio dan do ar gael ar gyfer ymwelwyr anabl, i'w harchebu o flaen llaw. Mae'n bosib cyrraedd y maes parcio drwy'r fynedfa oddi ar Stryd Pierhead ar ochr yr adeilad.
Mae tri slot amser ar gael i'w harchebu; 8am-12pm; 12.30pm-5pm; a 5.30pm tan yr amser cau.
Gallwch archebu tocyn parcio Bathodyn Glas am bris gostyngol wrth gwblhau eich archeb. Nodwch bydd angen prynu'r tocyn parcio cyn mynd i mewn i'r maes parcio.
Nodwch rhif eich Bathodyn Glas wrth archebu lle er mwyn dod mewn i'r maes parcio. (Gallwch ychwanegu hwn yn yr adran Eich Cyfrif )
*Nid yw'r maes parcio anabl yn addas ar gyfer bysiau mini. Ond, mae 12 safle parcio bathodyn glas am ddim ar gael ar hyd Plas Bute ar gyfer cerbydau mwy.
Mannau parcio anabl o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru (yn agor mewn tab newydd)