Ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd, gallwch gyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru yn y car, ar y trên, mewn bws, ar feic neu hyd yn oed ar gwch.
EIN CYFEIRIAD
Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd, CF10 5AL
CYRRAEDD YN Y CAR
Mae'n hawdd cyrraedd yma o'r tu allan i Gaerdydd ar hyd traffordd yr M4. Er mwyn cael y cyfarwyddiadau mwyaf dibynadwy, rhowch ein cod post CF10 5AL yn eich dyfais llywio lloeren.
Os ydych yn dod o'r Gorllewin, gadewch yr M4 ar gyffordd 33 ac ymunwch â’r A4232. O'r Gogledd, dilynwch yr A470 tuag at Gaerdydd a dilynwch yr arwyddion i Fae Caerdydd.
O'r Dwyrain, gadewch yr M4 ar gyffordd 29 ac ymuno â’r A48, dilynwch yr arwyddion i Fae Caerdydd ac i Ganolfan Mileniwm Cymru.
PARCIO
Mae sawl lle i barcio'r car ym Mae Caerdydd. Mae Q-Park Bae Caerdydd gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru ar Stryd Pierhead ac mae ar agor 24 awr y dydd. Defnyddiwch CF10 4PH fel cod post i gyrraedd y man cywir.
Gellir archebu lle parcio gostyngedig yn Q-Park pan fyddwch chi’n prynu tocynnau neu yn hwyrach yn eich cyfrif. Nodwch fod rhaid archebu lle cyn mynd i mewn i’r maes parcio.
Bydd gan eich e-docyn neu’ch tocyn papur god bar: sganiwch y cod ychydig o gentimedrau i ffwrdd ar waelod y sganiwr wrth i chi fynd i mewn i'r maes parcio nes iddo droi'n wyrdd a bydd y gwahanfur yn codi. Gwnewch yr un peth wrth adael. Hawdd!
Mae meysydd parcio hefyd yng Nghanolfan Red Dragon, Cei'r Forforwyn ac yn Stryd Havannah.
PARCIO I BOBL ANABL
Mae gennym ni 17 o lefydd i barcio dan do y gall ymwelwyr anabl eu harchebu. Gallwch eu cyrraedd o Stryd Pierhead wrth ymyl ein hadeilad ni. Rhaid i chi archebu un o'r llefydd hyn ymlaen llaw pan fyddwch yn archebu eich tocyn ar-lein neu drwy'r swyddfa docynnau.
TACSI
Gallwch archebu tacsi drwy Capital Cabs (02920 777 777), Premier Cars Ltd (029 2055 5555) neu Dragon’s Taxis (029 2033 3333). Y rhes tacsis agosaf yw'r un y tu allan i siop Tesco Express yng Nghei'r Forforwyn.
TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS
Gallwch gynllunio'ch siwrne ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda chynllunydd teithiau Traveline Cymru.
AR FWS
Mae Bws Caerdydd yn rhedeg sawl gwasanaeth i ardal Bae Caerdydd, ac mae arhosfan bws y tu allan i flaen Canolfan Mileniwm Cymru.
Mae'r BayCar yn cysylltu â Gorsaf Heol y Frenhines, Caerdydd, Heol Eglwys Fair a gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Mae llwybrau eraill yn cysylltu â mannau eraill ar draws y ddinas; ewch i wefan Bws Caerdydd i gynllunio'ch siwrne.
AR Y TRÊN
Mae Great Western Railway (GWR) yn rhedeg gwasanaethau rhwng y Gorllewin a gorsaf Paddington yn Llundain, gan alw yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, ac mae gan Drenau Trafnidiaeth Cymru wasanaethau lleol rheolaidd ledled Cymru.
Mae gwasanaeth trenau rheolaidd o orsaf Heol y Frenhines Caerdydd i'r bae sy'n rhedeg bob 12 munud ac sy'n cymryd llai na 5 munud. Ewch i Wasanaethau Ymholiadau National Rail i gynllunio'ch siwrne ar y trên.
AR GWCH
Mae gwasanaeth bws dŵr AquaBus yn rhedeg gwasanaeth o Gastell Caerdydd, heibio i Benarth i'r bae. Mae'r bws dŵr yn rhedeg o ganol y ddinas i'r bae am hanner awr wedi bob awr, ac o Benarth i'r bae am ugain munud wedi bob awr.
Mae mynediad llawn i gadeiriau olwyn ar y bws, yn ogystal â mynediad un lefel i deithwyr hŷn neu fregus.
AR Y BEIC
Mae Bae Caerdydd wedi'i gysylltu â chanol y ddinas drwy lwybr beicio Taith Taf; chwiliwch am arwyddion Taith Taf sy'n rhedeg ar hyd yr afon gyferbyn â Stadiwm y Principality.
Mae llwybr beicio a llwybr cerdded hefyd ar hyd yr A4232 o Barc Manwerthu Bae Caerdydd.
Mae safle Next Bikes y tu allan i’n hadeilad ar Stryd Biwt ac yn Mermaid Quay. Mae’n bosib llogi’r beiciau drwy’r ap, dros y ffôn neu drwy’r wefan.