Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Mae eich diogelwch yn holl bwysig i ni ac mae gennym ni drefniadau diogelwch gweledol a chudd sy'n weithredol 24 awr y dydd.

Mae'n bosib y byddwn yn chwilio bob bag sy'n dod i mewn i'r adeilad. Yn sgil hyn, gofynnwn yn garedig i chi beidio â dod â bagiau mawr gyda chi, oherwydd gallai hyn achosi oedi wrth ddod i mewn.

Mae camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) wedi eu lleoli ar draws y safle ac mae camerâu sy'n cael eu gwisgo ar y corff hefyd yn weithredol er lles ein hymwelwyr a staff.

Os byddwch yn dod â bag gyda chi sy'n fwy na 42cm x 23cm x 30cm o faint, bydd angen ei adael yn yr ystafell gotiau gyda chyfraniad argymelledig. Nodwch os gwelwch yn dda: ni fydd mynediad i unrhyw un sy'n gwrthod chwiliad bag.

Os ydych chi'n dod i weld perfformiad theatr, gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser ar gyfer y trefniadau diogelwch yma, yn enwedig os oes angen i chi gasglu tocynnau o'r ddesg docynnau, sy'n gallu bod yn brysur iawn cyn sioe. 

Mae drôns wedi eu gwahardd o'n safle a'r ardal sy'n ei amgylchynu.

Rydyn ni'n adolygu ein trefniadau diogelwch yn rheolaidd, ac rydyn ni'n cadw'r hawl i newid trefniadau ar fyr rybudd.

Diolch am eich cydweithrediad.