Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Camwch drwy’r drysau metel eiconig o Lefel 2 Canolfan Mileniwm Cymru, cymerwch sedd a gwneud eich hun yn gartrefol gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW) yn eu canolfan, Neuadd Hoddinott y BBC.

Wedi’i henwi er anrhydedd i’r cyfansoddwr chwedlonol o Gymru, Alun Hoddinott, mae’r neuadd hon yn fwy na dim ond lleoliad – mae’n hafan i bawb sy’n frwd dros gerddoriaeth! Gyda seddi i 350 o bobl, mae Neuadd Hoddinott y BBC yn lle cyfforddus, cartrefol ac acwstig ragorol sydd wedi bod yn lleoliad ar gyfer perfformiadau cyngerdd gan rai o’r enwau mwyaf ym maes cerddoriaeth gerddorfaol.

Wrth i chi fwynhau’r awyrgylch, byddwch yn dysgu bod Neuadd Hoddinott y BBC yn fwy na dim ond lleoliad ar gyfer cyngherddau; mae’n ganolfan ar gyfer creadigrwydd ac arloesedd. Wedi’u canmol yn eang ar draws y BBC, mae perfformiadau’r gerddorfa ar gyfer teledu a radio yn cynnwys y trac sain a’r thema ar gyfer Doctor Who, Prehistoric Planet, rhaglenni hanes naturiol gyda Syr David Attenborough, The Pact a Plant mewn Angen.

Y tu hwnt i’r perfformiadau ar y llwyfan, mae Neuadd Hoddinott y BBC yn gartref i stiwdio recordio o’r radd flaenaf, sy’n addas ar gyfer darllediadau radio, traciau sain ar y teledu a recordiadau eraill, a gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu, mae’n dod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd.

Mae BBC NOW yn croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau’r gymuned drwy ei drysau bob blwyddyn fel rhan o’u prosiectau gwaith maes ac addysg. Mae’r rhain yn cynnwys Cyfansoddi: Cymru, cyngherddau ysgol, sesiynau hyfforddi, a pherfformiadau ochr yn ochr ar gyfer cerddorion ifanc.

Felly, p’un a ydych chi’n hoff iawn o gerddoriaeth neu’n newydd-ddyfodiad chwilfrydig, mae Neuadd Hoddinott y BBC yn eich gwahodd i brofi cynhesrwydd ei chroeso ac ymgolli yn y gerddoriaeth orau sydd gan Gymru i’w chynnig!

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Neuadd Hoddinott y BBC neu ei llogi, anfonwch e-bost at: now@bbc.co.uk