Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Ein prif ofod, Theatr Donald Gordon, yw’r llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop, ac mae ymhlith theatrau gorau’r byd.

Mae’n croesawu cynyrchiadau o safon fyd-eang, gan gynnwys sioeau cerdd llwyddiannus yn syth o’r West End, cynyrchiadau gwefreiddiol Opera Cenedlaethol Cymru, dawns, drama a mwy.

Enwyd y theatr ar ôl ei noddwr - y ddiweddar Donald Gordon, gŵr busnes o Dde Affrica a roddodd £10m i Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae’r theatr ‘lyric’ odidog yn llwyfan i’r genedl, sy’n cyflwyno digwyddiadau rhyngwladol o bwys wedi’u gwreiddio yn ein diwylliant cenedlaethol.

Yn y gofod yma rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy greu profiadau a rennir gyda’n cynulleidfaoedd sy’n...

Hudol

O’r funud y cyrhaeddwch y theatr i’r atgofion fyddwch yn cymryd gartref, rydyn ni wedi ymrwymo i greu profiadau gwefreiddiol.

Adloniadol a chyffrous

Tiger Bay The Musical

Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy gyflwyno rhaglen o safon fyd-eang o’r theatr gerdd, drama, dawns, opera, comedi a cherddoriaeth genedlaethol a rhyngwladol gorau.

Unigryw ac ysblennydd

Van Morrison a Bryn Terfel

Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau, gwyliau a dathliadau sy’n meithrin artistiaid Cymreig a newydd, ac yn dangos y doniau rhyngwladol gorau.

O Eisteddfodau Cenedlaethol i’n Gŵyl y Llais, mae ein theatr yn le i bobl ddod ynghyd. Rydyn ni’n creu’r profiadau yma drwy sicrhau’r ansawdd gorau posib:

Talent

Rufus Wainwright chwarae gitâr

Rydyn ni’n rhaglennu cynyrchiadau theatr gerdd gorau’r byd, yn syth o’r West End a Broadway, ochr yn ochr â dramâu sy’n procio’r meddwl, operâu gwefreiddiol a chynyrchiadau dawns arobryn.

Mae ein rhaglen ehangach yn adlewyrchu amrywiaeth talentau’r celfyddydau perfformio.

Cyrhaeddiad

Rydyn ni’n angerddol dros sicrhau bod ein rhaglen yn agored i gynifer o bobl a phosib.

Rydyn ni’n gwneud hyn drwy gynlluniau tocynnau cymunedol fforddiadwy, a drwy ddiwallu anghenion ein cynulleidfaoedd drwy gynnal perfformiadau gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sain ddisgrifiad a pherfformiadau ymlaciedig a mwy. Darganfyddwch fwy am hygyrchedd fan hyn.

Ail-fuddsoddi ein helwau

Fel elusen, rydyn ni’n ail-fuddsoddi bob ceiniog o’r elw sy’n dod o’n rhaglenni masnachol. Rydyn ni’n buddsoddi mewn pobl ifanc - gan greu profiadau dysgu wedi’u gwreiddio yn y celfyddydau sy’n newid bywydau.

Mae ein Theatr Donald Gordon eisoes wedi...

  • Rhoi llwyfan i’n cynyrchiadau ein hunain, gan gynnwys Tiger Bay y Sioe Gerdd - ein cyd-gynhyrchiad â Cape Town Opera, ac Only the Brave.
  • Cynnal sawl diwrnod cymunedol er mwyn dathlu doniau ein cymunedau.
  • Cynnal sawl Eisteddfod Genedlaethol, gan roi mynediad am ddim i bob digwyddiad Cymraeg o bwys cenedlaethol.
  • Cynnal digwyddiadau rhyngwladol fel British Dance Edition a Womex.
  • Cynnal perfformiad ymlaciedig a nifer helaeth o berfformiadau hygyrch, er mwyn chwalu’r rhwystrau sy’n atal mynediad.
  • Cyflwyno sioeau hynod boblogaidd fel Les Misérables, Mamma Mia, a Disney’s The Lion King.
  • Rhoi llwyfan i raglen o safon ragorol gan ein sefydliadau preswyl - Opera Cenedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
  • Cyflwyno rhaglen o ddawns ryngwladol, drwy ein partneriaeth â’r Dance Consortium, yn ogystal â llwyfannu perfformiadau gan English National Ballet a Birmingham Royal Ballet ymysg eraill.
  • Darparu cartref i Llais - ein gŵyl gelfyddydol, ryngwladol, flynyddol o gerddoriaeth fyw anhygoel, perfformiadau sy’n procio’r meddwl a sgyrsiau ysbrydoledig.