Dyma atebion i rai o'n cwestiynau cyffredin.
Methu dod o hyd i ateb i'ch cwestiwn? Cliciwch ar y botwm oren 'Allwn ni helpu?' ar waelod eich sgrîn er mwyn gofyn i'n sgwrsfot.
Archebu eich tocynnau
Sut ydw i'n archebu tocynnau gyda cherdyn Hynt?
Gallwch archebu eich tocynnau dros y ffôn neu ar-lein, gan ddefnyddio eich rhif cyfeirio Hynt unigryw wrth archebu. Os ydych wedi archebu tocynnau gyda ni ac mae rhif cod bar Hynt cymwys yn gysylltiedig â’ch cyfrif, rydyn ni wedi trefnu hyn ar eich cyfer.
Dyma’r cyfan sydd angen i chi ei wneud: Mewngofnodwch i’ch cyfrif gyda’r cyfeiriad e-bost sydd wedi’i gofrestru, yna dewiswch y cynhyrchiad yr hoffech ei weld o‘r dudalen Digwyddiadur. Os nag oes gennych chi gyfrif Canolfan Mileniwm Cymru ar-lein, gallwch greu un yma. Nodwch y gall gymryd hyd at 24 awr i Hynt ymddangos ar eich cyfrif.
Bydd y nifer o docynnau Hynt sydd ar gael i chi yn cyfateb â’r nifer a gytunwyd gyda Hynt yn ystod y broses o ymaelodi â’r cynllun. Sicrhewch eich bod chi wedi dewis y nifer cywir o docynnau ar gyfer pob aelod o’ch grŵp.
Sut ydw i’n defnyddio e-docynnau?
Pan fyddwch yn archebu ar gyfer sioe yn ein Theatr Donald Gordon byddwch yn derbyn e-docynnau drwy ebost unwaith i chi osod eich archeb.
Pan fyddwch yn cyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru ar gyfer y sioe, ni fydd angen ymuno â chiw i gasglu tocynnau. Y cyfan fydd angen i chi ei wneud yw dangos eich e-docynnau ar eich ffôn neu dabled i'r dywyswyr, cyn mynd i eistedd yn eich sedd.
Sut ydw i’n defnyddio taleb rhodd/taleb credyd?
Cwblhewch eich archeb yn y ffordd arferol, drwy ddewis sioe, dyddiad, amser a sedd/i. Ewch ymlaen at y cam nesaf ac yng nghornel dde eich sgrin fe welwch ‘Oes gennych Daleb Rhodd? Cliciwch yma i’w defnyddio’. Cliciwch fan hyn, a gallwch ddefnyddio’ch taleb rhodd drwy fewnbynnu rhif y daleb.
Nid wyf wedi derbyn fy e-docynnau. Pryd fyddan nhw'n cyrraedd?
Dylai'ch tocynnau gyrraedd o fewn 30 munud i'w harchebu, ond os na chyrhaeddon nhw, mae modd i chi eu hailgyhoeddi nhw eich hunan yma.
Nid wyf wedi derbyn cadarnhad ar e-bost eto, beth alla i ei wneud?
Os mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein, gallwch ail anfon y tocynnau i chi’ch hunan.
Mae gen i docynnau ar gyfer perfformiad, ond ni allaf fynychu bellach. Beth alla i ei wneud?
Cysylltwch â'n Swyddfa Docynnau drwy gwe-sgwrs neu ar y ffôn er mwyn trafod cyfnewid tocynnau a dewisiadau ar gyfer ad-daliad.
Dydw i methu mynychu perfformiad. Beth alla i wneud?
Pan rydych yn archebu tocynnau, mae opsiwn ar gael i ychwanegu diogelwch ad-daliad drwy ddarparwr trydydd parti, Booking Protect. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ychwanegu Booking Protect i'ch basged pan fyddwch yn gosod eich archeb.
Am wybodaeth bellach am Booking Protect a phryd maent yn cynnig ad-daliad llawn, cliciwch yma. Oni bai eich bod chi wedi prynu Booking Protect, ni fydd ad-daliadau yn cael eu cynnig, ac eithrio pan fydd perfformiad yn cael ei ganslo.
Cysylltwch â'n Swyddfa Docynnau er mwyn trafod cyfnewid tocynnau a dewisiadau ar gyfer ad-daliad.
Mae eich gwefan yn dangos bod tocynnau cynhyrchiad newydd 'Ar werth yn fuan'. Pryd bydd modd i fi brynu tocynnau?
Bydd ein gwefan yn cael ei diweddaru cyn gynted ag y byddwn wedi cadarnhau dyddiadau. Bydden ni'n argymell eich bod yn tanysgrifio i'n cylchlythyr i gael diweddariadau, neu'n ymaelodi er mwyn cael blaenoriaeth archebu pan fydd perfformiadau'n mynd ar werth.
Alla i gyfnewid fy nhocynnau i berfformiad arall?
Gallwch symud eich tocynnau i berfformiad arall o'r un cynhyrchiad (neu'r un tymor Opera Cenedlaethol Cymru) am ddim drwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif. Darllenwch ein blog i weld sut.
Yn ystod eich ymweliad
Oes yna le i gadw cotiau?
Oes, mae ein man gwybodaeth ac ystafell gotiau newydd ar agor awr cyn pob perfformiad, ac yn cynnwys staff sydd ar gael i helpu â'ch ymholiadau. I'w weld, cerddwch drwy'r drysau ffrynt a throwch i'r chwith hyd ddiwedd y cyntedd.
Rydyn ni'n cynnal chwiliadau o fagiau pobl ar hap unwaith y bydd y theatr ar agor, ac os bydd unrhyw fag yn rhy fawr, byddwn yn gofyn i chi ei gadw yn yr ystafell gotiau.
Oes canllaw gwisg i rywun sy'n dod i weld sioe?
Does dim rheolau ganddon ni o ran beth i'w wisgo. Rydyn ni'n croesawu pawb drwy ein drysau ac rydyn ni am i'n cynulleidfaoedd deimlo'n gyfforddus.
Serch hynny, weithiau bydd rhai perfformiadau yn gosod eu rheolau gwisg penodol, ond fe fyddwn ni'n rhoi gwybod i chi am hyn ymlaen llaw.
Pryd dylwn i gyrraedd ar gyfer perfformiad?
Dylech geisio cyrraedd o leiaf 30 munud cyn dechrau'r perfformiad er mwyn caniatáu digon o amser i brynu rhaglen, archebu diodydd a gosod rhag-archeb ar gyfer diodydd i'r egwyl. Mae ein bariau theatr yn agor awr cyn ddechrau pob perfformiad.
Fel arfer bydd drysau'r theatr yn agor ryw 20-30 munud cyn i'r sioe ddechrau, a bydd cyhoeddiad i roi gwybod i chi pan fydd y drysau'n agor.
Beth ddylwn i ei wneud os bydda i'n hwyr?
Rydyn ni'n deall weithiau ei bod hi'n anodd cyrraedd ar amser. Pan fyddwch yn cyrraedd, rhowch wybod i aelod o staff a fydd yn gallu'ch cynghori chi pryd i fynd mewn i'r theatr.
Mae gan bob sioe bwyntiau penodol i hwyrddyfodiaid, ac rydyn ni'n ceisio cael pobl sy'n hwyr i'w seddi pan fydd y gynulleidfa yn cymeradwyo. Serch hynny, fe ddylech chi fod yn ymwybodol o'r ffaith nad yw rhai sioeau'n caniatáu hwyrddyfodiaid. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn eich cyfeirio at un o'r bariau lle gallwch wylio ffrwd byw o'r perfformiad.
Os gallwn ni sicrhau mynediad i chi i'r theatr yn ystod pwynt penodol, cofiwch bydd y theatr yn dywyll iawn, ac fe fydd tywysydd yn eich tywys i'ch sêt gyda fflachlamp.
Oes modd i mi dynnu lluniau a ffiilmio?
Nac oes; oni bai ein bod yn cyhoeddi fel arall, mae ein polisi'n datgan na chaniateir ffotograffiaeth na ffilmio yn y theatr unwaith y bydd sioe wedi dechrau fel arwydd o barch i'r perfformwyr. Wedi dweud hynny, rydyn ni'n annog pob cwsmer i dynnu hunlun cyn y sioe a'n tagio ni @yGanolfan neu @theCentre.
Os ydych chi am dynnu lluniau neu fideos proffesiynol i'w darlledu neu at ddibenion eraill, rhaid i chi ofyn am ganiatâd ymlaen llaw gan swyddfa'r wasg.
Ble alla i brynu rhaglen neu nwyddau'r sioe?
Bydd rhaglenni ac unrhyw nwyddau o'r sioe ar gael ar y llawr gwaelod wrth i chi ddod drwy'r drysau, ac mae gwerthwyr rhaglenni hefyd wrth ymyl pob bar cyn y sioe.
Ble mae'r toiledau?
O'r llawr gwaelod i fyny at Lefel 2, mae tai bach i ddynion a menywod ar bob ochr i'r adeilad.
Mae'r tai bach yn gallu bod yn brysur cyn sioe ac yn ystod yr egwyl, ond efallai bydd tai bach ar lefelau eraill yn dawelach, felly mae'n werth mynd i weld.
Mae tai bach hygyrch ar bob lefel ac ar bob ochr i'r adeilad hefyd.
Pa gyfleusterau a gwasanaethau ydych chi'n eu darparu ar gyfer teuluoedd?
Mae ganddon ni gyfleusterau newid clytiau yn nhai bach y menywod ac yn y tai bach hygyrch ar y llawr gwaelod.
Hefyd, mae ganddon ni nifer cyfyngedig o glustogau i'w rhoi ar y seddi, at eich defnydd am ddim. Mae'r rhain i'w cael o'r ystafell gotiau, ond weithiau does dim digon ar gael ar gyfer rhai sioeau teulu, felly efallai yr hoffech chi ddod â'ch clustogau eich hunan.
Mae modd cadw bygis plant yn yr ystafell gotiau, ac yn aml byddwn yn neilltuo ardal i barcio bygis yn ystod sioeau i blant. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyfleusterau twymo poteli babanod yn y Caffi ar y llawr gwaelod.
Sut dylwn i ymddwyn yn ystod y perfformiad?
Rydyn ni am i bawb allu mwynhau'r perfformiad, felly dylech barchu'r bobl o'ch cwmpas chi yn y theatr. Mae'r modd y disgwylir i'r gynulleidfa ymddwyn hefyd yn dibynnu ar y sioe ei hunan.
Mae siarad, canu, mwmian a chlapio yn gallu amharu ar fwynhad pobl eraill os byddwch yn gwneud hyn ar adegau amhriodol. Dim ond rhwng pob act neu set y dylai pobl glapio fel arfer. Mae rhai sioeau cerdd yn cynnwys darnau encore, a dyma'r adeg pan fydd pobl yn gallu clapio a chyd-ganu gan fod y perfformiad go iawn wedi gorffen.
Yn ystod y sioe, dylid osgoi mynd a dod o'ch seddi oni bai ei bod hi'n argyfwng. Gall ein tywyswyr eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu broblemau allai fod gennych.
Alla i fwyta yn y theatr?
Er ein bod yn caniatáu rhai eitemau o fwyd a diodydd ysgafn yn y theatr, gall bwyta yn ystod y sioe amharu ar eraill, felly rydyn ni'n gofyn i chi wneud hyn cyn neu ar ôl y sioe.
Digwyddiadau arbennig ac unigryw
Ymaelodwch heddiw am lwyth o fuddion gwych