Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Gallwch chi bellach gofrestru fel archebwr grŵp ac archebu eich tocynnau ar-lein – dim ffws, dim ciwio ar y ffôn – ychydig o gliciau a dyna ni. 

Drwy archebu tocynnau grŵp, byddwch chi hefyd yn gallu mwynhau'r buddion canlynol: 

  • Gostyngiadau ar bris sioeau penodol  
  • Gwybodaeth am flaenoriaeth wrth archebu (pan fydd ar gael)  
  • Opsiynau talu hyblyg: archebwch nawr, talwch nes ymlaen (yn amodol ar delerau ac amodau)  

I gael gwybod mwy, cysylltwch â’n tîm grwpiau yn gwerthiant.grwpiau@wmc.org.uk. 

Mae gennym ni gynigion arbennig ar gyfer grwpiau. Darganfyddwch y rhai diweddaraf.

Rheoli archeb grŵp

Sut i archebu tocynnau grŵp ar-lein

Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisioes, cofrestrwch gyda ni fel archebwr grŵp. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ac ewch i dudalen y sioe rydych chi am archebu tocynnau ar ei chyfer. Cliciwch ar ‘Dod o hyd i docynnau’ ac yna dewiswch y dyddiad perthnasol. Byddwch chi’n gallu dewis eich seddi. Ar gyfer archebion o 20+, argymhellwn eich bod yn defnyddio'r swyddogaeth ‘dewis yn ôl pris’. Yna gallwch chi fynd yn ôl i olygu eich archeb a gweld pa seddi sydd wedi cael eu dewis i chi, a’u newid os oes angen.  

Gallwch chi archebu hyd at 200 o seddi ar-lein. Mae terfyn ar nifer y tocynnau y gellir eu harchebu ar gyfer pob perfformiad, ac unwaith y byddwn ni wedi cyrraedd y terfyn yma, byddwch chi naill ai’n gallu talu am eich archeb ar unwaith neu ddewis perfformiad arall.  

Ychwanegu seddi at/Dileu seddi o’ch archeb

Tra eich bod chi yn eich cyfrif, cliciwch ar y botwm ‘Golygu’ o dan yr archeb yr hoffech ei newid. Ar y sgrin nesaf, byddwch chi’n gallu gweld rhifau seddi eich archeb. I ychwanegu mwy o seddi, cliciwch ar ‘Newid dewis seddi’.  

Nesaf byddwch chi’n gweld cynllun llawr y theatr. Gallwch chi chwyddo i mewn ac allan o’r cynllun drwy ddefnyddio’r symbolau plws a minws ar y chwith.  

Bydd eich seddi’n ymddangos fel cylchoedd oren. Mae’r cylchoedd lliwgar eraill gwag yn cynrychioli’r seddi sydd ar gael, ac mae’r rhai llwyd yn cynrychioli’r seddi sydd eisoes wedi’u harchebu.  

I ychwanegu mwy o seddi at eich archeb, cliciwch ar y sedd yr hoffech chi ei hychwanegu. Byddwch chi’n gweld llun o’r llwyfan o leoliad bras y sedd honno ynghyd â phrisiau. Cliciwch ar ‘Dewis’ nesaf at y pris yr hoffech chi ei ychwanegu. Bydd y sedd yma nawr yn ymddangos fel rhan o weddill eich archeb. Os hoffech chi ychwanegu mwy o seddi, dilynwch y broses unwaith eto. Unwaith y byddwch chi’n fodlon ar eich newidiadau, cliciwch ar ‘Diweddaru’r Fasged’. 

I ddileu seddi o’ch archeb, gallwch chi naill ai glicio ar y cylch oren sy’n cyfateb i’r sedd yr hoffech chi ei dileu ac yna clicio ar ‘Diddymu’ neu cliciwch ar y groes goch nesaf ar y sedd yn y rhestr sy’n ymddangos ar waelod eich sgrin. Unwiath y byddwch chi’n fodlon, cliciwch ar ‘Diweddaru’r Fasged’. 

Yna byddwch chi’n gweld trosolwg o’ch archeb. Nodwch os ydych chi wedi ychwanegu seddi, bydd y rhai newydd yn ymddangos ar linell ar wahân.  

Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi ticio’r blwch sy’n datgan eich bod chi wedi darllen a derbyn Amodau’r Gwerthiant, ac yna cliciwch ar ‘Diweddaru’r Archeb’ yng nghornel dde isaf y dudalen i gadarnhau eich newidiadau. 

Ni fyddwch chi’n cael e-bost yn cadarnhau’r newidiadau.  

Os ydych chi wedi dileu seddi ac roeddech wedi cael gostyngiad grŵp yn flaenorol, mae’n bosibl y bydd lleihau nifer y seddi yn effeithio ar y pris. Bydd angen i chi siarad ag aelod o’r tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid os bydd hyn yn berthnasol i’ch archeb. Gallwch chi gysylltu â nhw drwy gwe-sgwrs 10am – 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.  

Os byddwch chi’n lleihau nifer y seddi yn eich archeb i lai na 10 o seddi ni fyddwch chi’n gymwys ar gyfer archeb grŵp mwyach – canslwch eich archeb drwy glicio ar ‘Canslo’r Archeb’ yn eich cyfrif, ac yna archebwch seddi drwy’r wefan yn y ffordd arferol.  

Talu am eich archeb

Yn eich cyfrif, cliciwch ar y botwm ‘Talu Nawr’ nesaf at yr archeb yr hoffech chi dalu amdani.  

Caiff yr holl seddi yn eich archeb eu hychwanegu at eich basged a byddwch chi’n gallu golygu ac ychwanegu pethau megis diodydd i’r egwyl, mannau parcio a gostyngiad ar westy.  

Pan fyddwch chi’n barod, cliciwch ar ‘Derbyn Amodau’r Gwerthiant’ ac yna’r botwm ‘Talu’.  

Canslo eich archeb

Yn eich cyfrif, cliciwch ar ‘Canslo’r Archeb’ nesaf at yr archeb yr hoffech ei chanslo. Ar y sgrin nesaf byddwn yn gofyn i chi roi rheswm dros ganslo eich archeb. 

Cwestiynau Cyffredin Grwpiau

Sut alla i gofrestru fel archebwr grŵp?

Os nad ydych chi wedi gwneud archeb grŵp gyda ni o’r blaen, cofrestrwch gyda ni drwy lenwi'r ffurflen ymaneu gysylltwch â ni drwy we-sgwrs, drwy ebostio gwerthiant.grwpiau@wmc.org.uk neu drwy ffonio 029 2063 6464.

Sawl person sydd ei angen mewn grŵp i gael gostyngiad?

Rhaid i'ch grŵp gynnwys o leiaf 10 o bobl i fod yn gymwys i gael gostyngiad ar bris tocynnau.  

Alla i archebu tocynnau grŵp ar-lein?

Os ydych chi wedi cofrestru gyda ni fel archebwr grŵp gallwch chi bellach archebu tocynnau grŵp ar-lein – dim ffws, dim ciwio ar y ffôn – ychydig o gliciau a dyna ni. Os bydd y dyddiad talu ar gyfer y sioe wedi mynd heibio, byddwch chi'n dal yn gallu archebu ar gyfer grŵp ond bydd angen talu ar unwaith. 

Faint o docynnau alla i eu harchebu ar-lein?

Gallwch chi archebu hyd at 200 o seddi ar-lein. Mae terfyn ar nifer y tocynnau y gellir eu harchebu ar gyfer pob perfformiad. Unwaith y byddwn wedi cyrraedd y terfyn yma, caiff yr opsiwn i archebu seddi ei ddileu, a byddwch chi'n gallu talu am eich archeb ar unwaith neu ddewis perfformiad arall. 

Allwn ni eistedd gyda’n gilydd?

Wrth archebu ar-lein, gallwch chi ddewis eich seddi. Ar gyfer archebion o 20+, argymhellwn eich bod yn defnyddio'r swyddogaeth ‘dewis yn ôl pris’. Yna gallwch chi fynd yn ôl i olygu eich archeb a gweld pa seddi sydd wedi cael eu dewis i chi, a’u newid os oes angen.  

Pan fyddwch chi'n cael cadarnhad o'ch archeb bydd hefyd yn nodi ardal, rhesi a rhifau eich seddi. Gallwch chi olygu eich archeb unrhyw bryd ar ein gwefan yn yr adran Fy Nghyfrif. 

Alla i archebu tocynnau ar gyfer grŵp ysgol ar-lein?

Gallwch, mae'n bosibl archebu, golygu, canslo a thalu am archeb grŵp ysgol ar-lein. I gael tocynnau am ddim i athrawon os ydynt yn gymwys, cysylltwch â ni drwy e-bostio gwerthiant.grwpiau@wmc.org.uk. 

Alla i archebu ar gyfer aelodau hynt fel rhan o fy archeb grŵp?

Nid yw hyn yn bosibl ar-lein ar hyn o bryd; cysylltwch â ni drwy we-sgwrs neu drwy e-bostio gwerthiant.grwpiau@wmc.org.uk 

Pryd mae angen i mi dalu a sut?

Caiff eich tocynnau eu cadw tan y dyddiad talu a nodir yn y cadarnhad o'ch archeb ac ar ein gwefan yn yr adran Fy Nghyfrif. Unwaith y bydd y dyddiad yma wedi mynd heibio, caiff y seddi eu rhyddhau i'r cyhoedd. Peidiwch â phoeni, byddwn ni'n anfon e-byst i'ch atgoffa un mis ac un wythnos cyn y dyddiad talu, yn ogystal â'r diwrnod canlynol, felly byddwch chi'n cael digon o rybudd! 

Rydyn ni'n ceisio trefnu dyddiad talu gyda chynhyrchwyr sydd mor agos â phosibl at y perfformiad er mwyn rhoi digon o amser i chi gasglu’r arian gan aelodau eich grŵp. 

Rydyn ni'n cynnig nifer o ffyrdd hwylus i chi dalu: 

  • Y ffordd hawsaf yw ar-lein drwy fewngofnodi i'ch cyfrif 
  • Gallwn ni dderbyn un siec fesul archeb*. Rhaid gwneud y siec yma'n daladwy i Canolfan Mileniwm Cymru (Masnachu) Cyf a'i dychwelyd at: Yr Adran Gwerthiant Grwpiau, Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Caerdydd CF10 5AL. Ysgrifennwch rif eich archeb ar gefn y siec os gwelwch yn dda. Bydd y rhif yma yn y cadarnhad o'ch archeb. 
  • Rydyn ni hefyd yn derbyn Taliadau BACS i: Lloyds TSB, Rhif Cyfrif: 16624760 Cod didoli: 30-67-64 (dyfynnwch rif eich archeb) 
  • Ar gyfer taliadau rhyngwladol, defnyddiwch y manylion canlynol: IBAN: GB52 LOYD 3067 6416 6247 60, BIC: LOYDGB21707

*Nodwch os gwelwch yn dda: unwaith i ni gael siec, anfonir y tocynnau o fewn 21 diwrnod wedi i'r taliad glirio. 

Rydw i wedi colli’r cadarnhad o fy archeb, beth ddylwn i ei wneud?

Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein. Bydd y manylion ar gael o dan Fy Archebion yn yr adran Fy Nghyfrif. 

Beth ddylwn i ei wneud os na all aelod o’r grŵp ddod i’r cynhyrchiad ar ôl i mi archebu?

Rydyn ni'n deall yn iawn y gall trefnu grŵp fod yn gymhleth, felly rydyn ni'n rhoi cyfnod cadw tocynnau i chi er mwyn i chi gasglu'r arian a dim ond talu am y seddi sydd eu hangen arnoch chi. Gallwch chi olygu eich archeb ar-lein unrhyw bryd tan y dyddiad talu y cytunwyd arno.  

Unwaith y byddwch chi wedi talu am eich tocynnau, ni ellir rhoi ad-daliad. Darllenwch ein telerau ac amodau i weld y manylion llawn. 

Alla i ychwanegu diogelwch ad-daliad at fy archeb?

Gellir rhoi dyfynbris ar gyfer diogelwch ad-daliad gan Booking Protect pan fyddwch chi'n archebu tocynnau. Fodd bynnag, bydd angen ychwanegu hyn eto pan fyddwch chi'n talu am eich archeb derfynol. 

Sut alla i gael y cylchlythyr diweddaraf i grwpiau?

Byddwn ni’n eich tanysgrifio chi pan fyddwch chi’n cofrestru fel archebwr grŵp.