Crëwyd adeilad Canolfan Mileniwm Cymru fel llwyfan i Gymru, i adlewyrchu ysbryd y genedl, a rhoi cartref i'r celfyddydau perfformio. 

Mae'r dyluniad yn adlewyrchu tirwedd ddiwydiannol a naturiol Cymru mewn un, gan ddwyn ysbrydoliaeth o'r mynyddoedd, y môr a'r diwydiant haearn yn Ne Cymru a phyllau llechi'r gogledd.

Mae hefyd yn cyfeirio at hanes arforol Bae Teigr, a chawn weld hynny drwy do copr yr adeilad sy'n gwneud i'r adeilad edrych fel llong enfawr ac yn sgil hynny mae'n cael ei adnabod yn lleol fel yr armadilo. 

"I wanted to create something unmistakeably Welsh and internationally recognisable and outstanding."

Jonathan Adams, pensaer 

Ar ôl blynyddoedd o baratoi, adeiladwyd ymhen dwy flynedd a hanner yn unig ac agorwyd gan y Frenhines yn 2004 gydag allwedd dur addurnedig a deithiodd ar draws pum cyfandir ar siwrne o ewyllys da er mwyn datgloi'r drws blaen.

Wedi'i chyd-ariannu gan Lywodraeth Cymru, Loteri Genedlaethol, Comisiwn Mileniwm a Chyngor Celfyddydau Cymru, roedd yr adeilad yn costio £106m i'w chreu gan ddefnyddio deunydd byddai'n goroesi treigl amser yn ogystal â thywydd Cymru.

Ar gyfer cragen allanol yr adeilad, gorchuddiwyd 4,500 tunnell o ddur adeileddol gyda 2,000 tunnell o lechi Cymreig wedi'u ailgylchu a'u adfer o domennydd rwbel. 

Cyfansoddwyd y tanysgrifiad trawiadol ar flaen yr adeilad: Ffwrnais Awen gan Gynfardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis. 

Mae’r llythrennu Celtaidd nid yn unig yn cynrychioli’r traddodiad hynafol o gerfio carreg ond hefyd y rhagoriaeth, egwyddorion a gonestrwydd artistig sydd i’w weld y tu fewn i’r adeilad a’u hadlewyrchu i’r byd drwy’r gwydr ym mhob llythyren.

"No West End theatre boasts what we have here. There's nowhere in London that comes close to this facility."

Andrew Lloyd-Webber, cyfansoddwr

Wrth gamu tu mewn i’r adeilad mae’r cysylltiad rhwng y dirwedd naturiol a diwydiannol yn parhau gyda neges ecogyfeillgar a chynaliadwy drwyddi draw.

Defnyddiwyd pren caled o goetiroedd cynaliadwy Cymreig y tu mewn i’r adeilad gyda phileri tal du â phatrymau ffosil yn cynrychioli cyrion cyfareddol y fforest, lle mae hud a lledrith yn cwrdd â realiti.

I bob cyfeiriad, gwelwch dystiolaeth o saernïo celfydd a mynegiant artistig Cymreig. Mae’n sicr yn werth archebu lle ar daith tu ôl i’r llenni i ddarganfod mwy am yr adeilad.

Cymerwch gipolwg ar ein gwagleoedd y tu mewn i'r adeilad