Ar benwythnosau, mae Cabaret yn lleoliad disglair a phwrpasol ar gyfer ein rhaglen o ddrag, bwrlésg, comedi, theatr gig a cherddoriaeth fyw. Wedi’i gynllunio i greu profiadau agos-atoch, hygyrch a chofiadwy, mae gan bawb olygfa dda o’r 150 o seddi sy’n amgylchynu’r llwyfan, ac mae bar gwbl weithredol yno.
Gyda llwyfan unigol, desg sain a goleuo parhaol, yn ogystal â llenni sy’n gallu cael eu hagor yn llawn i ddangos golygfeydd gogoneddus o’r Senedd a’r bae, mae’r gofod amlbwrpas yma yn berffaith ar gyfer sesiynau yoga neu ddosbarthiadau babanod wythnosol, cynadleddau, lansiadau brandiau, partïon pen-blwydd, arddangosfeydd a mwy. Wedi’i leoli ar hyd terfyn yr adeilad, mae gan Cabaret ei fynedfa a ffasâd ei hun, ystafell gotiau, toiledau neillryw ac ystafell wisgo i 3–6 person gyda chawodydd cyfagos.
Mae dyluniad bywiog a chreadigol gan Cabaret, sy’n berffaith ar gyfer delweddau Instagram, ac mae’n gwneud y gofod yn berffaith ar gyfer derbyniadau a digwyddiadau rhwydweithio.
PT-CABARET_WMCHireSpaces_096
20240307_PT-WMCHireSpaces_126
20240307_PT-WMCHireSpaces_102
20230223_PT_WMCCabaret_48
20240307_PT-WMCHireSpaces_113
Gwybodaeth bwysig
| Capasiti: | |
| Yn sefyll: | 200 |
| Theatr: | 150 |
| Cabaret: | 150 |
| Dimensiynau: | 330m2 |
| Arlwyo: | Bar cwbl weithredol gyda’r gallu i archebu drwy god QR ar gael. Arlwyo ar gontract allanol. |
| Cyfleusterau technegol: | Wi-Fi, llwyfan, goleuo a rig sain. |
| Cyfleusterau eraill a hygyrchedd: | Toiledau neillryw ac ystafell gotiau. |