Mae ein prif ystafell bwrdd ac ardal ar gyfer digwyddiadau preifat wedi’i lleoli ar y mesanîn ar Lefel 3.
Mae Ystafell Japan yn fawr ac yn olau, gyda balconi sy’n edrych dros rai o brif dirnodau Caerdydd, sy’n ei gwneud yn berffaith ar gyfer cyfarfodydd bwrdd a chynadleddau bychain.
Mae toiledau gerllaw ac ardal y tu allan i’r ystafell ar gyfer gosod arlwyaeth. Gellir hefyd llogi Copr, ein lolfa breifat i aelodau ar Lefel 1, ar gyfer cinio neu ddiodydd ar ôl y cyfarfod.
JAPAN_SA-Llais-139
20240307_PT-WMCHireSpaces_059
20240307_PT-WMCHireSpaces_045
20240307_PT-WMCHireSpaces_056
JAPAN_SA-Llais-142
JAPAN_PT-WMCHireSpaces_060
Gwybodaeth bwysig
| Capasiti: | |
| Yn sefyll/lletygarwch: | 45 |
| Theatr: | 70 |
| Cabaret: | 40 |
| Ystafell Bwrdd: | 24 |
| Dimensiynau: | 74m2 |
| Cyfleusterau technegol: |
Wi-Fi a sgrin arddull cynhadledd gyda |
| Cyfleusterau eraill a hygyrchedd: | Mynediad drwy lifft i’r trydydd llawr. Mae toiled i bobl anabl drws nesaf. |