Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
John Cale + Gwestai Arbennig

John Cale + Gwestai Arbennig

28 Hydref

Mae aelod gwreiddiol un o fandiau mwyaf diffiniol cenhedlaeth - JOHN CALE o The Velvet Underground yn dychwelyd am berfformiad bythgofiadwy gyda gwesteion arbennig, i ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed.

Wedi’i ddisgrifio fel ‘un o’r cerddorion, cyfansoddwyr a llais mwyaf yn hanes roc’ mae’n bleser gennym groesawu John Cale yn ôl i lwyfan Theatr Donald Gordon, lle bu’n chwarae yn ystod ein gŵyl gyntaf un yma yn 2016.

Gadawodd Cale, y cerddor a feiolydd arloesol, y band chwedlonol The Velvet Underground, ym 1968 i ddilyn gyrfa unigol lwyddiannus.

Gydag 16 albwm i’w enw, mae wedi cydweithio â cherddorion di-ri gan gynnwys ei ffrind agos Brian Eno ac wedi cynhyrchu sawl sgôr ffilm ac albwm ar gyfer cerddorion eraill gan gynnwys LP cyntaf Patti Smith, ‘Horses’ a The Stooges.