Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Bombino + Les Amazones d'Afrique

Bombino + Les Amazones d'Afrique

30 Hydref

Noson hollol hyfryd o gerddoriaeth o Orllewin Affrica, gyda’r canwr-gyfansoddwr a gitarydd Tuareg anhygoel, BOMBINO + harmonïau polyrhythmig y grŵp benywaidd anhygoel LES AMAZONES D'AFRIQUE.

LES AMAZONES D'AFRIQUE

Yn agor y noson mae Les Amazones d'Afrique, grŵp benywaidd sydd wedi ehangu i gynnwys artistiaid benywaidd o bob rhan o Affrica a thu hwnt.

Wedi’i ffurfio ym Mali gan dri artist a’r ymgyrchwyr newid cymdeithasol, Mamani Keïta, Oumou Sangaré a Mariam Doumbia, mae eu cerddoriaeth felodaidd a phellgyrhaeddol yn asio arddull pan-Affricanaidd a harmonïau cyfunol â pop dewr cyfoes.

Roedd eu halbwm cyntaf ‘République Amazone’ yn cynnwys cyfraniadau gan pobl fel Angélique Kidjo  a’r canwr-gyfansoddwr o Nigeria, Nneka - a daliodd sylw’r Arlywydd Obama, roddodd un o’r caneuon yn ei 20 uchaf yn 2017.

MWY GAN LES AMAZONES D'AFRIQUE

BOMBINO

Gydag enwebiad Grammy, mae Bombino, â’i lais cyfareddol hypnotig, ei ddawn syfrdanol ar y gitâr, a’i rythmau melys wedi sefydlu ei hun fel un o chwaraewyr gitâr gorau'r byd. Mae wedi cyflwyno’r byd i'w genre cerddorol unigryw ei hun, sef 'Tuareggae' - cyfuniad o gitâr Tuareg a rhythm reggae.

Wedi’i ddylanwadu’n sylweddol gan Hendrix, mae’r cyn fugail o Nigeria wedi llunio gyrfa gerddorol hynod lwyddiannus iddo’i hun – ac wedi chwarae gydag enwogion fel Keith Richards a Charlie Watts (Rolling Stones) a Dan Auerbach (The Black Keys).

MWY GAN BOMBINO