Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Rachel Chinouriri

Rachel Chinouriri

Wedi’i hyrwyddo gan Michaela Coel, Annie Mac a Sian Eleri, mae RACHEL CHINOURIRI yn gantores-gyfansoddwraig o Lundain gydag arddull gwbl unigryw.

Fel plentyn ifancaf teulu mawr â cherddoriaeth wrth ei galon, mae Rachel yn priodoli cymaint o’i dylanwad cerddorol i'w magwriaeth Zimbabweaidd traddodiadol. Daeth Rachel o hyd i gysur drwy ysgrifennu a recordio cerddoriaeth pan yn ifanc, ac roedd y diffyg cerddoriaeth bop yn golygu iddi ddatblygu arddull gwbl unigryw ei hunain.

Amlygwyd Rachel ar BBC Radio 1 fel un o ‘Future Sounds’ Annie Mac ac fel ‘Chillest Record of The Week’ Sian Eleri, tra’n hefyd profi ei medrusrwydd fel perfformiwr byw anhygoel gan gefnogi Celeste, Sam Fender a Lianne La Havas.

Gyda dau enwebiad ar gyfer The Ivors eleni – y Gân Gyfoes Orau ar gyfer Give Me A Reason a Gwobr y Seren Newydd gydag Apple Music – mae Rachel Chinouriri yn enw byddwn yn ei glywed yn fwy rheolaidd.

“Chinouriri plays with delicate vocal acrobatics akin to the likes of FKA twigs and SZA as she explores jealousy and insecurities over lo-fi ambient electronic soundscapes”

The Line of Best Fit

MWY GAN RACHEL CHINOURIRI