Yn anffodus, fydd Gŵyl y Llais ddim yn cael ei chynnal eleni. Roedd yn benderfyniad anodd, ond yn un roedd rhaid i ni ei wneud oherwydd ansicrwydd ynghylch cynnal digwyddiadau cerddorol yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Ond mae newyddion da hefyd. Roedd ganddon ni artistiaid gwych ar y rhestr, ac mae 2021 yn argoeli i fod yn well fyth.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal nawr rhwng 4 a 7 Tachwedd 2021, ac rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi bod Cate Le Bon wedi'i chadarnhau fel ein curadur gwadd. Cadwch lygad ar ein sianeli cymdeithasol i weld mwy o newyddion a diweddariadau am artistiaid.

29 Hydref - 1 Tachwedd
Tocynnau Penwythnos Cyntaf i'r Felin
Cewch fynediad llawn i'r ŵyl, gan gynnwys mynediad cynnar i bob un o ddigwyddiadau arbennig a chynigion yr ŵyl.
Prynwch eich tocyn
29 Hydref - 1 Tachwedd
Tocynnau Penwythnos
Mwynhewch ŵyl anhygoel a gynhelir dros bedwar diwrnod gyda dros 60 o berfformiadau anhygoel, mewn dau leoliad ym Mae Caerdydd.