Cywaith rhwng y ddeuawd nu-jazz BIGHEADMODE (Robbie ac Ewan Moore) a Plumm, arweinydd band ac aml-offerynnydd o fri sy’n byw yn Ne Llundain, yw BLACKSABBATHMODE. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi creu cyfres hudolus wedi’i hysbrydoli gan y band chwedlonol o ganolbarth Lloegr, Black Sabbath.
Mae’r asiad yma’n cydblethu grŵfs jazzaidd arallfydol BIGHEADMODE sy’n atgoffa rhywun o Mwandishi gan Herbie Hancock, gydag adleisiau o J Dilla a Khruangbin, ochr yn ochr â seinweddau atmosfferig llawn enaid Plumm sydd wedi’u hysbrydoli gan arloeswyr cerddorol fel David Bowie, Led Zeppelin, a Janis Joplin.
Gan wyro oddi ar brosiectau canu teyrnged confensiynol, mae'r antur yma’n cyfleu hanfod a bywiogrwydd arddull Black Sabbath drwy gyfansoddiadau gwreiddiol. Mae'r gyfres yn cynnwys elfennau electronig, gwaith byrfyfyr, a threfniannau unigryw o draciau Black Sabbath dethol, gan gynnwys Paranoid, War Pigs, a Fairies Wear Boots, gyda dehongliad unigryw, cyffrous, a deinamig.
Mae'r daith gerddorol yma’n archwiliad arbennig o diriogaeth newydd wrth dalu gwrogaeth i etifeddiaeth barhaus Black Sabbath.
MORE FROM BLACKSABBATHMODE
Hyd y perfformiad: 90 munud
Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £3Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.