Mae Cate Le Bon yn dychwelyd gyda pherfformiad arbennig iawn yn Llais eleni.
Yn Pompeii, sef chweched albwm Cate Le Bon a gafodd ganmoliaeth fawr, bu i’r aml-offerynnwr, cyfansoddwr a chynhyrchydd a chydweithiwr y mae galw mawr amdani (St. Vincent, Wilco, Devendra Banhart, John Grant, H. Hawkline, Deerhunter, Courtney Barnett, Kurt Vile) gyflwyno albwm wedi ei ddal mewn amser. Roedd y caneuon yn teimlo'n uniongyrchol ac yn yr eiliad ond hefyd yn adweithiol ac yn Dada-aidd yn eu hawydd i fod yn chwareus, yn ddychanol ac yn swrealaidd. Mae’r dilyniant i Reward 2019 a enwebwyd am wobr Mercury, yn cynnwys teitl storïol sy’n galw apocalyps, ond mae’r trosiad yn taflu’i gysgod dros unrhyw 'ddadansoddiad o uniongyrchedd,' yn ôl Le Bon. Fel y noda Bradford Cox o Deerhunter yn addas iawn am Le Bon, 'mae yna artistiaid sy'n edrych i mewn neu allan, ac wedyn mae yna rai prin iawn sy'n mynd y tu hwnt i'r naill leoliad neu'r llall.'
MWY GAN CATE LE BON
Amser dechrau: 9pm
Hyd y perfformiad: 1 awr a 30 munud
Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu drosodd.
O dan 30
Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau
Archebwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Archebwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
Wrth brynu ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw'r cynnig yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.