Daeth Fabiana Palladino i’r amlwg yn 2017 fel un o artistiaid sefydlu Sefydliad Paul ar ôl i’w cherddoriaeth bop, sydd wedi’i dylanwadu gan R&B, gyrraedd Jai Paul, a ddechreuodd y label ochr yn ochr â’i frawd.
Daliodd glust y beirniaid – cymharodd Pitchfork “Mystery” â “thrac sgratsh o stiwdio fawr o’r wythdegau wedi’i smyglo allan ar dâp rîl-i-rîl” – ond mae allbwn Palladino wedi bod yn brin wrth iddi weithio fel cerddor sesiwn poblogaidd i bobl fel SBTRKT a Jessie Ware, gan fynd o un daith i’r nesaf.
Ar yr un pryd, roedd hi’n gweithio’n ddiwyd ac yn dawel bach ar ei halbwm gyntaf - sy’n rhannu ei henw, Fabiana Palladino. Palladino sydd wedi ysgrifennu a chynhyrchu’r yr albwm, a mawr fu’r aros amdani.
Cafodd ei chreu ar ôl diwedd perthynas hir, ac mae’n record dywyll ac agos-atoch sy’n cyfleu naws o galedi a benyweidd-dra Janet Jackson adeg Control ac Annie Lennox ar DIVA, yn ymdebygu i gyfansoddi clasurol Kate Bush a Joni Mitchell, ac yn gwyrdroi deuawdau Motown rhamantus a chlasurol Marvin Gaye a Tammi Terrell i ddadansoddi normadedd mewn perthnasau.
Mae tad Palladino, Pino Palladino o Gaerdydd, yn un o’r cerddorion sesiwn enwocaf erioed: a ganddo fe y dysgodd yr uniondeb sydd ei angen i weithio ar syniadau pobl eraill, a dod i ddeall yn raddol sut i gymhwyso hynny i’w gwaith hi. Mae’r albwm yn teimlo fel albwm bop glasurol: mae ei halawon sionc yn atgofus ac yn synhwyrus, y geiriau wedi’u mireinio’n gain i droi cwestiynau cymhleth am chwant a boddhad yn fachau syml.
May gan Fabiana Palladino
Amser dechrau: 9.30pm
Hyd y perfformiad: 1 air a 10 minud
Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £5Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.