Noson i ddathlu athrylith gerddorol y cyfansoddwr a’r Americanwr, David Crosby, cyn aelod o The Byrds a Crosby, Stills, Nash & Young, a fu farw y llynedd. Gyda Mike Scott (The Waterboys), Liam Ó Maonlaí (Hothouse Flowers), Kris Drever (Lau), The Staves + Zervas & Pepper.
Bydd artistiaid fel Mike Scott, Liam O’Maonlai, Kris Drever, The Staves a Zervas & Pepper yn dod at ei gilydd ar gyfer y perfformiad byw cyntaf erioed o albwm unigol hudol ac arloesol David Crosby o 1971, If I Could Only Remember My Name, yn ogystal â detholiad o’i gerddoriaeth gyda The Byrds a Crosby, Stills, Nash & Young.
Er mai derbyniad cymysg gafodd yr albwm ar adeg ei rhyddhau, mae hi bellach yn glasur gwltaidd ymhlith chwaethwyr cerddorol. Cafodd y recordiad gwerin seicedelig If I Could Only Remember My Name ei recordio ar adeg pan oedd Crosby’n profi heriau personol, a daeth â chriw o sêr at ei gilydd, yn gyfeillion ac yn gyfoedion, gan gynnwys Joni Mitchell, Gerry Garcia a Neil Young, sy’n canu harmonïau ac yn chwarae gitâr ar y traciau.
Amser dechrau: 7pm
Hyd y perfformiad: 1 awr 30 munud
Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.