Mae Joan Wasser, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Joan As Police Woman, wedi bod yn creu a pherfformio cerddoriaeth ers tri degawd. Mae’r ymddangosiad prin yma yn gweld Wasser yn perfformio caneuon o’i halbwm newydd sydd ar ddod. Bydd yn cael ei chefnogi gan Islet, y pedwarawd celf-roc Cymreig.
Gwnaeth Joan As Police Woman, a gafodd ei geni yn 1970, dyfu i fyny gyda’i theulu mabwysiadol yn Connecticut, nes iddi symud i Brooklyn i ymuno â sîn cerddoriaeth yr oes honno. Mae ganddi wreiddiau cryf. Astudiodd feiolin yn y brifysgol a chwaraeodd mewn cerddorfa. Yn 1994 yn Efrog Newydd dechreuodd berfformio gyda bandiau celf/pync, gan arbrofi gyda pharamedrau sain ei feiolin. Yna dechreuodd weithio fel cerddor sesiwn gydag Antony and the Johnsons a Rufus Wainwright, ac yna Lou Reed, Beck, Toshi Reagon, David Sylvian, Sparklehorse, Laurie Anderson a Damon Albarn.
Yn ddiweddar mae wedi gweithio gyda Sufjan Stevens, John Cale, Aldous Harding, Woodkid, Justin Vivian Bond, RZA, Norah Jones a Daniel Johnston ac mae hefyd wedi cynhyrchu albwm Lau a enillodd wobr am ei gerddoriaeth gwerin Albanaidd arloesol.
Mae Joan As Police Woman yn brosiect a ddechreuwyd yn 2002 ac sydd wedi’i enwi fel teyrnged i Angie Dickinson, seren sioeau heddlu teledu. Mae ei halbymau blaenorol wedi cael eu canmol gan gynulleidfaoedd ac adolygwyr ac maen nhw wedi ennill gwobrau gan gynnwys y Gwobrau Cerddoriaeth Annibynnol (Real Life) ac Albwm y Flwyddyn Q Magazine (To Survive).
Islet
Pedwarawd o Gymru yw Islet y mae eu dyfeisiau rhydd a’u harddwysedd brwdfrydig yn hypnotig, bywiogol ac yn unigryw.
Mae’r band, a ffurfiwyd yng Nghaerdydd yn 2009 gan Emma Deman a’r brodyr Mark a John ‘JT’ Thomas cyn i Alex Williams ymuno â nhw’n fuan wedyn, yn adnabyddus am ei sain sy’n herio genres a’u sioeau byw bywiog a llawen.
Mae Islet yn ymwneud â chael eich cynnwys mewn sain, gyda chymhelliad ffyrnig i herio, cofleidio, cyfathrebu, cyffroi ac, yn y pen draw, gadael eu cynulleidfa yn rhydd. Maen nhw’n dilyn eu trywydd eu hunain, yn llawn syntheseiddwyr gyda phwls rhythmig gan greu cydbwysedd ysgafn rhwng ailadrodd, uchder a rhamant amser, profiad ecstatig drwy gerddoriaeth.
Cafodd eu pedwerydd albwm Soft Fascination ei ryddhau y llynedd ar Fire Records.
MWY GAN JOAN AS POLICE WOMAN
Amseroedd:
Islet – 8.45pm
Joan as Police Woman – 9.45pm
Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.