Flwyddyn ers i’r albwm Dos Bebés ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, mae Rogue Jones yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru i berfformio’r record yn ei chyfanrwydd – dyma fydd eu gig gyntaf yng Nghaerdydd ers 2017. Yn ogystal â’r band byw arferol o naw, bydd gwesteion arbennig a Chôr Taflais sydd â 50 o aelodau yn helpu i ddod â'r caneuon a'r straeon yn fyw.
Deuawd o’r gorllewin, Bethan Mai ac Ynyr Morgan, yw craidd Rogue Jones – a enwyd ar ôl teulu o gŵn nodedig sy’n ddisgynyddion i’r enwog Gelert – ond mae nifer yr aelodau yn cynyddu’n aruthrol wrth chwarae’n fyw.
Dos Bebés yw eu hail albwm, ac er bod arddull y band yn aeddfedu ynddi, nid yw hyn yn amharu ar eu hysbryd dyfeisgar. Mae’r arbrofwyr pop dwyieithog Rogue Jones yn cyfleu sbrigynnod direidus a bywiog sy’n hongian o’r nenfwd ar un llaw, a gwybodusion doeth sy’n tapio’u traed yng nghornel y dafarn ar y llaw arall.
Mae Dos Bebés yn albwm eclectig ac amrywiol am bynciau sy’n cynnwys bod yn rhiant, UFOs, cyfrifiadureg, dewiniaeth, ac annibyniaeth i Gymru.
MWY O ROGUE JONES
Amser dechrau: 6.45pm
Hyd y perfformiad: 1 awr 15 munud
Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.