Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Spirituals gan Le Gateau Chocolat gydag Allyson Devenish

Spirituals gan Le Gateau Chocolat gydag Allyson Devenish

13 Hydref 2024

Homili o wychder Du Cwiar drwy Emynau Negroaidd.

Mae Le Gateau Chocolat yn cyflwyno Gwasanaeth Sul na welwyd ei debyg, mewn molawd i ddwy soprano Ddu Americanaidd arloesol – Jessye Norman a Kathleen Battle.

Gan gydweithio â’r Cyfarwyddwr Cerdd enwog Allyson Devenish (NitroVoX), perfformir detholiad o gyngerdd enwog Norman a Battle yn Neuadd Carnegie yn 1990 ‘Sing Spirituals’.

Gan gymylu’r ffiniau rhwng ysbrydolrwydd neu grefydd, ac ysbrydegaeth yr hunan, bydd Spirituals Gateau yn mynd â’n cynulleidfa ar daith yr enaid.

Fe wnaeth gweld Jessye Norman a Kathleen Battle yn perfformio gyda cherddorfa o bobl wyn i gyd roi cychwyn ar syniadau na allai’r Gateau ifanc prin eu dychmygu, ond mae’n eu byw erbyn hyn. Tra bod derbyn yr hunan yn golygu herio’i fagwraeth hynod Gristnogol yn Nigeria, roedd grym cerddoriaeth y gofodau cysegredig yma’n drawsnewidiol – o’r eglwys i Neuadd Carnegie, a nawr Canolfan Mileniwm Cymru.

Croeso i ofod cysegredig Gateau – ei lwyfan, ei eglwys, ei lawr dawnsio – ei ofod diogel. Diogel i wyntyllu cymhlethdod cyfoethog y ffordd mae caneuon a anwyd mewn caethwasiaeth yn dwyn iachawdwriaeth; a lle mae diaspora a drag yn gwrthdaro mewn ffordd sydd ddim ond yn bosib gyda Le Gateau Chocolat.

Amser dechrau: 5pm

Hyd y perfformiad: 70 munud

Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu drosodd. 

O dan 30

Gostyngiad o £5

Cynnig tocynnau

Archebwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%. 

Archebwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%. 

Wrth brynu ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw'r cynnig yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.