Mae Sweet Honey in the Rock, sy’n dathlu hanner can mlynedd ym myd cerddoriaeth, yn 'un o’r casglebau cerddorol mwyaf deinamig, amryddawn a pherthnasol hyd heddiw'.
Ers ei sefydlu yn Washington, D.C. yn 1973, mae Sweet Honey in the Rock wedi ffynnu fel ensemble perfformio sydd wedi’i seilio ar genhadaeth o rymuso, addysgu a diddanu. Mae eu cyfranwyr presennol yn cynnwys y cantorion Carol Maillard, Louise Robinson, Aisha Kahlil, Nitanju Bolade Casel, a Rochelle Rice, gyda Romeir Mendez ar y dwbl bas acwstig/trydan, a’r dehonglydd Iaith Arwyddion America, Barbara Hunt.
Dros gyfnod o bum degawd, mae aelodau’r ensemble wedi bod yn gweithio i greu cerddoriaeth dda sy’n effro i faterion cymdeithasol ac sy’n gwneud safiad mewn ymdrech i sicrhau bod ein planed yn lle gwell i bawb fyw. Mae eu tirwedd gerddorol yn cofleidio sawl genre a chenhedlaeth ac yn rhoi sylw i hawliau sifil a dynol, materion menywod, trais gynnau, marwolaeth, cariad, ysbrydolrwydd, caneuon plant a llawer mwy.
'Sweet Honey In The Rock has withstood the onslaught. She has been unprovoked by the 30 pieces of silver. Her songs lead us to the well of truth that nourishes the will and courage to stand strong. She is the keeper of the flame.'
Harry Belafonte
Mae eu lleisiau wedi’u clywed ar gymaint o lwyfannau’r byd – Neuadd Carnegie (dros ddeg ar hugain o weithiau), Tŷ Opera Sydney, Neuadd Albert, Canolfan Kennedy, Jazz yn Lincoln Center – i enwi dim ond rhai; ac maen nhw wedi perfformio’n helaeth ar bob cyfandir (heblaw Antarctica – tan y daw gwahoddiad!).
Yn 2023 cychwynnodd Sweet Honey in the Rock ar dair blynedd rymus o ddathlu eu hanner can mlwyddiant a fydd yn anrhydeddu eu gorffennol chwedlonol ac yn gosod y llwybr ar gyfer dyfodol y grŵp eiconig yma.
MWY GAN SWEET HONEY IN THE ROCK
Amser dechrau: 7.15pm
Hyd y perfformiad: 1 awr a 30 munud
Oed: Pob oed. Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
O dan 30
Gostyngiad o £5
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Lock Off, Street Art Operas na Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.