Mae GRUFF RHYS nôl ar daith gyda’i albwm newydd Seeking New Gods – a gafodd ei gymysgu yn LA gyda’r cynhyrchydd Mario C (Beastie Boys).
Mae Gruff wedi bod yn gwthio ffiniau cyflwyno a pherfformio cerddoriaeth, gan ddechrau gyda theithiau system sain 'quadrophonic’ fel rhan o Super Furry Animals, un o allforion mwyaf cŵl Cymru.
Rhyddhawyd Seeking New Gods, seithfed albwm unigol Gruff, yn gynharach eleni ar Rough Trade Records. Cysyniad gwreiddiol yr albwm oedd bywgraffiad y mynydd Paektu (llosgfynydd byw yn nwyrain Asia).
Ond wrth i ysgrifennu Gruff ddechrau adlewyrchu ar raddfa amser annynol bodolaeth mynydd a’r nodweddion manwl sy’n dod ag ef yn fyw’n chwedlonol, daeth y caneuon a’r mynydd yn fwyfwy personol.
Mae Gruff Rhys yn gyfarwydd iawn â’n llwyfan, wedi iddo syfrdanu cynulleidfaoedd yn 2018 gyda’i berfformiad llawn o’r albwm Babelsberg gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC, wedi’u comisiynu gan Ŵyl y Llais. Rydyn ni’n falch i'w gael e nôl eto.
"Un o gerddorion Cymraeg pwysicaf ei genhedlaeth”
Y Selar