Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Next Up: D Double E

Next Up: D Double E

27 Hydref 2022

Nod NEXT UP yw taflu goleuni ar artistiaid MOBO newydd o Gymru ac mae wedi arddangos artistiaid mewn nifer o wyliau ledled y wlad.

Eleni yn Llais bydd y perfformiwr Grime D DOUBLE E yn perfformio yn Stiwdio Weston gyda chefnogaeth gan rai o’r artistiaid newydd gorau o Gymru gyfan.

D DOUBLE E

Mae’r rapiwr a’r artist Grime D Double E yn berfformiwr blaenllaw yn y byd Grime yn y DU, gan mai ef oedd un o’r artistiaid cyntaf i feithrin y genre o dan ddylanwad ‘Drum ‘n’ bass’, Jyngl a Garej y DU. Mae D Double E, sy’n cael ei alw’n MC yr MCs, wedi cydweithio gyda’r dalent orau yn y byd Grime yn y DU, gan gynnwys Skepta, JME a Wiley. Mae ei EP diweddaraf, ‘Bluku! Bluku! 2’, sy’n dilyn ei albwm cyntaf yn 2011 ‘Bluku! Bluku!’, allan nawr ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ei groesawu i Gaerdydd.

SAGE TODZ

Mae SAGE TODZ yn artist Dril o Benygroes, Gwynedd, a achosodd gynnwrf ym mis Mawrth eleni pan ryddhaodd glip o’i hun yn perfformio Dril yn Gymraeg, a gwyliwyd y fideo dros 200k o weithiau ar Twitter a TikTok. Ers hynny mae wedi rhyddhau’r fideo llawn ar gyfer y gân ‘Rownd a Rownd’ ac mae wedi gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ryddhau fersiwn o ‘Yma o Hyd’ i gefnogi tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru o’r enw ‘O HYD’.

MARINO

Yn creu sain unigryw, mae’r rapiwr o Abertawe MARINO yn gyfforddus gyda Dril neu seiniau mwy melodig, ac mae ‘Cardiff to Vetch Fields’ ar GRM Daily yn dangos hyn. Mae’n ymddangos ar drac Sage Todz ‘O HYD’.

NEXT UP CYPHER

Yn agor y sioe mae gennym rai o’r MCs Grime mwyaf cyffrous yng Nghymru yn perfformio mewn seiffr gyda’r DJ a’r cynhyrchydd Dubzta ar y deciau a Big Dex, MANLIKEVISION, Niques, Razkid, Smxk3 a Truth fel MCs.