Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Am ddim: Kara Jackson

Am ddim: Kara Jackson

30 Hydref 2022

Bydd cyn-National Youth Poet Laureate UDA 2019–20 a’r cerddor, canwr, ysgrifennwr caneuon a bardd talentog KARA JACKSON yn rhoi perfformiad am ddim ar lwyfan y Glanfa yn Llais eleni.

Mae gwaith Kara, sy’n artist gair llafar ac yn fardd talentog, yn canolbwyntio ar eitemau penodol ac eiliadau amlwg o’n bywydau o ddydd i ddydd, grymoedd goruchafiaeth wen, casineb at fenywod ac eithriadoldeb dynion gwyn.

Mae llawer o waith Kara yn anrhydeddu ei llinach ac mae’n mynegi ei hun mewn ffordd sy’n teimlo’n naturiol, gan blethu ac anrhydeddu ei gwreiddiau o dde’r Unol Daleithiau a diwylliant Du.

Bydd Kara hefyd yn un o’r panelwyr yn y sgwrs Cerddoriaeth ac Actifiaeth sy’n dechrau am 2.30pm.

MWY GAN KARA JACKSON