Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Vieux Farka Touré + Les Amazones d'Afrique

Vieux Farka Touré + Les Amazones d'Afrique

30 Hydref 2022

Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, ni fydd Bombino yn perfformio yng Ngŵyl Llais 2022 fel rhan o Bombino + Les Amazones d’Afrique.  Bydd Les Amazones d'Afrique yn perfformio o hyd, a bydd y lein-yp nawr yn cynnwys y canwr a’r gitarydd o Mali, Vieux Farka Touré. Rydyn ni wedi cysylltu â deiliaid tocynnau.

Noson hollol hyfryd o gerddoriaeth o Orllewin Affrica, gyda’r gitarydd a chanwr-gyfansoddwr o Mali, VIEUX FARKA TOURÉ a harmonïau polyrhythmig y grŵp benywaidd anhygoel LES AMAZONES D'AFRIQUE.

LES AMAZONES D'AFRIQUE

Yn agor y noson mae Les Amazones d'Afrique, grŵp benywaidd sydd wedi ehangu i gynnwys artistiaid benywaidd o bob rhan o Affrica a thu hwnt.

Wedi’i ffurfio ym Mali gan dri artist a’r ymgyrchwyr newid cymdeithasol, Mamani Keïta, Oumou Sangaré a Mariam Doumbia, mae eu cerddoriaeth felodaidd a phellgyrhaeddol yn asio arddull pan-Affricanaidd a harmonïau cyfunol â pop dewr cyfoes.

Roedd eu halbwm cyntaf ‘République Amazone’ yn cynnwys cyfraniadau gan pobl fel Angélique Kidjo  a’r canwr-gyfansoddwr o Nigeria, Nneka - a daliodd sylw’r Arlywydd Obama, roddodd un o’r caneuon yn ei 20 uchaf yn 2017.

MWY GAN LES AMAZONES D'AFRIQUE

VIEUX FARKA TOURÉ

Vieux Farka Touré yw mab y gitarydd a'r arloeswr ym maes blues yr anialwch enwog o Mali, Ali Farka Touré. Cafodd ei eni yn 1981 yn Niafunke, Mali, tref llychlyd ar yr Afon Niger tua 100 milltir i'r de o Timbuktu, ac ni wnaeth tad Vieux ei annog i ddilyn yr un gyrfa ag ef. Yn ffodus, anwybyddodd gyngor ei rieni a dechreuodd chwarae'r gitâr, gan ymarfer yn gyfrinachol pan nad oedd ei dad yn gallu ei glywed. Efallai ei fod wedi hunan-ddysgu, ond mae'n amlwg bod Vieux wedi etifeddu rhywbeth yn ei DNA. 

Ymddangosodd ei albwm cyntaf yn 2006, a rhoddodd Ali ei gymeradwyaeth drwy ymddangos ar yr albwm, ei recordiadau olaf cyn iddo farw. Mae Vieux wedi rhyddhau pedwar albwm arall, gan estyn ffiniau cerddoriaeth draddodiadol o Orllewin Affrica i diriogaethau newydd, gan ennill y llysenw “Hendrix y Sahara”.

Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn brysur i Vieux; rhyddhaodd ei albwm diweddaraf Les Racines ym mis Mehefin ac mae wedi cydweithio â Khruangbin ar Ali, albwm sydd ar y ffordd sy'n talu teyrnged i waith ei dad gyda dehongliadau newydd o ddetholiad o'i ganeuon.

MWY GAN VIEUX FARKA TOURÉ