Prosiect sy’n dogfennu’r byd grime, dril a rap datblygol yn Ne Cymru yn ystod haf 2022 yw SOUTH SOUND.
Gan ddefnyddio ffotograffiaeth, mae South Sound yn cyfleu hanfodion byd cerddoriaeth bywiog, o berfformiadau byw i sesiynau stiwdio a phortreadaeth.
Bywgraffiad yr artist
Artist amlddisgyblaethol yw Pierre S. Gashagaza sy’n arbenigo mewn creu ffilmiau a ffotograffiaeth.
Yn 2021 cymerodd Pierre flwyddyn i ffwrdd ar ôl gorffen astudio mewn coleg chweched dosbarth. Yn ystod y cyfnod hwn gweithiodd yn y byd creadigol yn Ne Cymru gydag artistiaid, digwyddiadau a sefydliadau fel The Shutdown Show a Jukebox Collective.
Wrth wraidd celfyddyd Pierre mae Steelo Vision: safle cyfryngau a chwmni cynhyrchu sy’n darparu ar gyfer sylwebaeth gymdeithasol a chelfyddydol.
Mae Pierre hefyd yn cymryd rhan mewn actifiaeth a gwaith cymunedol, gan wirfoddoli i Urban Circle yng Nghasnewydd a phrosiect ieuenctid y Sub-Sahara Advisory Panel.
Ym mis Medi 2022 symudodd Pierre i Lundain er mwyn dilyn addysg brifysgol.
Instagram: @steelovision