Lansiodd prif leisydd The Charlatans, Tim Burgess, ei Listening Parties ’nôl ym mis Mawrth 2020 pan ddechreuodd y cyfnod clo cyntaf.
Mae partïon gwrando Tim, sef digwyddiadau lle mae pobl yn gwrando ar gerddoriaeth ar yr un pryd ac yn trydar, wedi bod yn llwyddiant ysgubol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Rydych chi’n ffrydio neu’n chwarae’r albwm dan sylw ar amser penodol, yn agor Twitter ac yn rhyngweithio â phobl eraill drwy ddarllen negeseuon a gofyn cwestiynau am y caneuon a’r cerddorion sydd wedi’u cyfansoddi gan rannu atgofion, syniadau a damcaniaethau perthnasol.
Mae hefyd yn gyfle da i wrando ar albwm yn ei chyfanrwydd unwaith eto.
YMUNWCH Â’R PARTI AR TWITTER
@LlSTENlNG_PARTY
@Tim_Burgess
#TimsTwitterListeningParty