Mae rhai o'r enwau mwyaf ym myd celf, diwylliant ac adloniant yn dod ynghyd i goroni enillydd y wobr fyd-eang gyntaf sy'n dathlu rhagoriaeth mewn gwaith adrodd straeon ymdrochol.
Heddiw, ddydd Gwener 15 Mai, mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyhoeddi panel beirniadu blwyddyn gyntaf Gwobr Annwn. O dan gadeiryddiaeth Cadeirydd y Ganolfan, Peter Swinburn, mae'r panel yn dwyn ynghyd yr artist, y gwneuthurwr ffilmiau a'r cerddor Larry Achiampong; y beirniad a'r awdur Arifa Akbar; yr arweinydd ym myd diwylliant a diwydiannau creadigol Syr Peter Bazalgette; y cerddor a'r ysgogwr cymunedol Charlotte Church a'r awdur-gyfarwyddwr Charlotte Regan.
“Cafodd Gwobr Annwn ei chreu i gydnabod yr artistiaid rhyfeddol sy’n ailddiffinio sut mae straeon yn cael eu profi. Drwy ddod â grŵp mor ddawnus ac eang ynghyd, rydyn ni'n creu'r amodau ar gyfer sgwrs feddylgar a thrylwyr ynghylch beth yw ystyr rhagoriaeth yn y ffurf ar gelfyddyd newydd yma heddiw – a beth yw'r posibiliadau o ran y dyfodol. Mae pob un yn dod â dealltwriaeth ddofn o rym gwaith adrodd straeon i esblygu ac i daro tant mewn ffyrdd newydd, gan seilio'r Wobr mewn safbwynt sy'n cydnabod ble mae'r ffurf ar gelfyddyd yn sefyll nawr ac i ble mae'n mynd.”
- Graeme Farrow, Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys, Canolfan Mileniwm Cymru
Cyhoeddir yr enillydd ddydd Sul 14 Mehefin 2026 fel rhan o arddangosfa fawr o'r gweithiau sydd ar y rhestr fer yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae'r arddangosfa, fydd yn cael ei chynnal o 27 Mai tan 26 Mehefin 2026, yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd gwledydd Prydain brofi peth o'r gwaith adrodd straeon ymdrochol mwyaf arloesol yn y byd mewn un lle.
Arifa Akbar
Jocelyn NguyenCharlotte Church
Rekha GartonCharlotte Regan
Sir Peter Bazlagette
Larry Achiampong. Image credit_ Reece Straw (1)
Reece StrawMae Gwobr Annwn yn dathlu gwaith sy'n seiliedig ar straeon sydd wedi'i greu drwy dechnoleg greadigol – gan gydnabod profiadau sy'n gwneud i gynulleidfaoedd deimlo fel rhan weithredol ac annatod o'r darn, ac sy'n ehangu ffiniau gwaith adrodd straeon ac ymwneud â'r gynulleidfa.
Mae rhestr fer gyntaf Gwobr Annwn yn cynnwys pedwar gwaith arloesol o Ffrainc, Gwlad Groeg, Gwledydd Prydain ac Unol Daleithiau America, pob un yn gwthio’r ffiniau o ran sut mae modd profi straeon.
Mae'r gweithiau sydd i’w gweld, a gafodd eu dewis gan banel o guraduron a sylwebyddion rhyngwladol, yn gwahodd cynulleidfaoedd i archwilio pedwar profiad amrywiol iawn drwy realiti estynedig, ffilm ganghennog, sinema estynedig a gosodwaith theatrig rhyngweithiol. Y pedwar gwaith ar y rhestr fer, sydd wedi'u canmol am eu gwreiddioldeb beiddgar, eu dyfnder emosiynol a'u defnydd arloesol o dechnoleg, yw: Colored / Noire gan Novaya; Consensus Gentium gan Karen Palmer; Constantinopoliad gan Sister Sylvester a NOWISWHENWEARE (the stars) gan Andrew Schneider.
Gyda chefnogaeth Peter a Janet Swinburn, bydd yr artist neu'r stiwdio fuddugol yn cael £20,000 ynghyd â phreswylfa bwrpasol i gefnogi datblygiad gwaith newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am Wobr Annwn ewch i: annwnprize.com/cymraeg