Mae bron yn amser i ddangos eich gwerthfawrogiad i'r ffigwr tad yn eich bywyd. Beth am roi sioe yn lle sanau?! Darllenwch ymlaen am ysbrydoliaeth anrhegion Sul y Tadau...

Dewch i hel atgofion melys gyda thri o fawrion comedi Prydain
The Last Laugh
12 – 16 Awst 2025
Yn syth o'r West End, mae The Last Laugh yn ddrama ddoniol newydd sbon sy’n ailddychmygu bywydau tri o ddigrifwyr gorau erioed Prydain – Tommy Cooper, Eric Morecambe a Bob Monkhouse.
Yn llawn jôcs gwych a straeon ingol, mae The Last Laugh yn sioe hiraethus a theimladwy ac yn sicr o fod yn noson gomedi orau Caerdydd.

Teimlwch yr ofn gyda phrofiad arswyd synhwyraidd
Ghost Stories
29 Gorffennaf – 2 Awst 2025
Ghost Stories, sy’n brofiad synhwyraidd a gwefreiddiol, yw un o’r dramâu a gafodd yr adolygiadau gorau erioed yn Llundain, a bydd yn eich cadw ar flaen eich sedd. Mae hwn yn brofiad theatraidd unigryw.
Ydych chi’n ddigon dewr i archebu?

Ymgyrchwch yn y maes glo cyn ymuno â'r frwydr i greu'r GIG
NYE
22 – 30 Awst 2025
Michael Sheen (Good Omens) reprises his role as Nye Bevan in this ‘valiant and valuable affirmation of the NHS’ (★★★★ Telegraph). Written by Tim Price (Teh Internet is Serious Business) and ‘vividly directed’ (★★★★ Times) by Rufus Norris (Small Island), this celebration of the life and legacy of the man who transformed Britain’s welfare state returns to Wales Millennium Centre following a sell-out run in 2024.

Eisteddwch mewn ystafell lys yn Alabama ym 1934
To Kill a Mockinbird
25 – 29 Tachwedd 2025
Creodd addasiad arobryn a gafaelgar Aaron Sorkin o’r nofel Americanaidd arloesol am anghyfiawnder hiliol a diniweidrwydd plentyndod stŵr ar Broadway a’r West End gyda thymhorau a werthodd allan ar ddwy ochr yr Iwerydd. Nawr mae’r ddrama ystafell llys yma yn mynd ar daith o’r DU ac Iwerddon am y tro cyntaf erioed.

Dewch i farrau a chlybiau jazz jook yn Soho, Llundain
Ronnie Scott's Jazz Club: The Ronnie Scott's Story
3 Awst 2025
Gan gymysgu cerddoriaeth enwog gan oreuon y byd jazz sydd wedi perfformio yn Ronnie Scott’s ers iddo agor 60+ mlynedd yn ôl, ochr yn ochr â straeon am hen Soho, cerddorion drygionus a chyrchoedd yr heddlu, dyma noson unigryw sy’n dathlu un o leoliadau jazz mwyaf enwog y byd, ei gerddoriaeth, a’i hanes.

Taith arbennig o gaeau gwledig Dyfnaint i ffosydd Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
War Horse
15 – 25 Hydref 2025
Mae cynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre yn dychwelyd mewn taith newydd sbon o’r DU ac Iwerddon. Mae War Horse yn brofiad theatraidd bythgofiadwy sy’n mynd â chynulleidfaoedd ar daith arbennig o gaeau gwledig Dyfnaint i ffosydd Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn seiliedig ar y nofel boblogaidd gan Michael Morpurgo, mae’r ddrama emosiynol a dychmygus yma, sy’n llawn cerddoriaeth a chaneuon cynhyrfus, yn sioe o ddyfeisgarwch rhyfeddol. Wrth ei gwraidd mae ceffylau maint go iawn syfrdanol gan Handspring Puppet Company o Dde Affrica, sy’n dod â cheffylau sy’n anadlu, yn carlamu ac yn rhuthro yn fyw ar y llwyfan.

Gwisgwch eich parkas i deithio ’nôl i frwydr Britpop y 90au
The Battle
28 Ebrill – 2 Mai 2026
O anhrefn y Brit Awards i frwydr ddrwgenwog y siartiau, mae The Battle yn gipolwg hynod ddoniol ar un o’r cystadlaethau mwyaf yn hanes roc. Gyda phersonoliaethau enwog a gwrthdrawiadau bythgofiadwy, doedd hyn byth yn ymwneud â’r gerddoriaeth, ond pŵer, balchder ac ysbryd cystadleuol afreolus. Gallwch chi ddisgwyl iaith fudr a deialog siarp yn y comedi newydd yma sy’n eich rhoi chi wrth wraidd yr elyniaeth, yr enwogrwydd a’r canlyniadau.