Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
20230511_PT-WMCRadioPlatfform_68

"Beth am roi gwell cyfle i'n 'cenhedlaeth goll'"

“Beth am roi gwell cyfle i'n 'cenhedlaeth goll'” meddai Graeme Farrow, Prif Swyddog Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru.

Roedd adroddiad pwysig a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Lywodraeth Prydain yn sôn am 'genhedlaeth goll' o bobl ifanc sydd ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant, gyda'r niferoedd hefyd ar gynnydd difrifol.

Roedd rhyddhau'r adroddiad yn amserol; yng Nghanolfan Mileniwm Cymru y penwythnos yma, roedd arbrawf a ddechreuwyd gan y Ganolfan i wthio yn erbyn y duedd yma yn dathlu dengmlwyddiant.

Roedd yr hyn a ddechreuodd fel gorsaf radio dros dro yng nghanol ein cyntedd am ychydig wythnosau yn gatalydd ar gyfer ailsiapio ein gwaith gyda phobl ifanc.

Mae Radio Platfform bellach yn orsaf radio lawn sy'n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Dros gyfnod o ddeng mlynedd, mae wedi darparu hyfforddiant achrededig i 700 o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae wedi darparu swyddi ar y gyflogres ac, yn y rhan fwyaf o achosion, wedi rhoi swydd gyntaf yn y sefydliad yma i 25 o bobl ifanc.

Mae nifer o'i chyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio ym myd darlledu yng Nghymru a'r tu hwnt. Dechreuodd Molly Palmer yn ein stiwdio yn y Ffatri yn y Porth ac mae hi bellach yn un o sêr newydd BBC Radio Wales. Yn gynharach y mis yma, llwyddodd Bablu Shikdar i greu hanes fel y Cymro cyntaf i fod yn gyflwynydd ar Asian Network y BBC; mae Bablu'n un arall a ddysgodd ei grefft gyda Radio Platfform.

Ac yn yr oes yma gyda chostau ar gynnydd, mae'n bwysig nodi bod popeth mae Platfform yn ei wneud yn rhad ac am ddim.

Mae hefyd yn ofod diogel i dreulio amser gyda'ch cyfoedion.

Mae hefyd yn enghraifft o rymuso pobl ifanc i ddatblygu a gwneud i bethau ddigwydd ar eu telerau nhw eu hunain. 

Gan ymestyn allan o Radio Platfform, fe wnaethon ni wahodd pobl ifanc dros y blynyddoedd i ddweud wrthon ni sut gallen ni fod fwyaf defnyddiol iddyn nhw, ac fe fuon ni'n cyd-ddylunio rhaglenni gyda'n gilydd, gan ganolbwyntio ar waith mwy hirdymor, cynaliadwy, dyfnach fyddai'n cael effaith uwch ar niferoedd llai i ddechrau. Erbyn hyn, yn ein gwaith sy'n cwmpasu'r sgrin, theatr, cerddoriaeth, celfyddydau gweledol, y gair llafar, dylunio a llawer mwy, mae 4,000 o bobl ifanc y flwyddyn yn cymryd rhan yn ein rhaglenni rhad ac am ddim ac mae 300 o bobl ifanc bob blwyddyn yn gwneud ein cyrsiau chwech wythnos rhad ac am ddim sy'n cael eu cyflwyno gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae dros 70 o bobl ifanc wedi cwblhau prentisiaethau technegol gyda ni mewn cydweithrediad â Choleg Caerdydd a'r Fro.

Dydy hwn ddim yn waith crand ac mae'n aml yn datblygu'n araf mewn ffordd ostyngedig. Ac rydyn ni'n gwneud camgymeriadau. Ddim yn fwriadol, ond rydyn ni'n ceisio dysgu gan bobl ifanc ac addasu i'w hanghenion. Ac mae eu hanghenion yn newid wrth i'r byd a rhagolygon y dyfodol newid mor gyflym.

Dydyn ni ddim wedi gwneud yn dda iawn o ran cyfathrebu am y gwaith yma; dydyn ni ddim yn siarad digon amdano. Ond mae angen i ni wneud hynny, mae angen i ni i gyd wneud hynny, oherwydd mae pobl ifanc yn cael eu gadael i lawr ac maen nhw'n cael bargen wael. Mae eu sylw hefyd yn cael ei ddwyn oddi arnyn nhw gan lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, ac mae'n bosib y bydd eu hunan-rym o dan fygythiad cyn bo hir yn sgil deallusrwydd artiffisial.

Mae cyfranogwyr Platfform wedi bod yn sôn wrthon ni ers blynyddoedd am yr hyn sy'n teimlo fel clogwyn sy'n tyfu rhwng gadael addysg a dod o hyd i swydd. Mae gormod o bwyslais yn y systemau addysg ar lwyddo gydag arholiadau a dim digon o bwyslais ar barodrwydd ar gyfer gwaith.

Rydyn ni'n cefnogi pobl ifanc i fod yn greadigol gan ein bod ni'n credu bod dyletswydd arnon ni i wneud hynny fel canolfan gelfyddydau genedlaethol. Mae'r gwaith yma wedi'i seilio ar y gred sicr bod pawb yn greadigol, bod gan bawb botensial creadigol a bod cael cyfle i roi cynnig ar bethau, treulio amser, dysgu a dod o hyd i'ch llais yn werthfawr ac yn cyfoethogi bywyd am oes ac ar gyfer unrhyw swydd yn y dyfodol. Ar ben hynny, mae'n bwysig er mwyn cynnal y diwydiant i'r dyfodol ac er mwyn datblygu Cymru lewyrchus a hyderus.

Mae pobl ifanc yn Platfform yn dysgu drwy wneud a drwy gydweithio. Maen nhw'n gwneud pethau maen nhw eisiau eu gwneud ac yn dewis eu gwneud. Maen nhw'n creu dramâu, hip-hop, cerddi, arddangosfeydd, ffilmiau, podlediadau. Maen nhw hyd yn oed yn dod yma weithiau i gysgu dros nos. Mae eu proses yn un o wrthsafiad llawen mewn byd lle maen nhw'n aml yn teimlo eu bod nhw'n cael eu hanwybyddu ac nad oes neb yn malio amdanyn nhw, ac mae'n broses obeithiol. Mae angen cefnogaeth ar bobl ifanc i ymgodymu â'r byd rydyn ni'n byw ynddo, ac mae angen mwy o gefnogaeth arnon ni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i gynnig y gofod a'r amser iddyn nhw gael cyfle da i wneud hynny. Rydyn ni eisiau adeiladu gofodau newydd, ysbrydoledig gyda phobl ifanc sy'n meithrin creadigrwydd, perthyn ac undod ac yn darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ar gyfer gwaith a sgiliau am oes.

Y cam nesaf o ddatblygu, er mwyn tyfu ein gwaith a'n heffaith, yw ychwanegu at yr arlwy a ddechreuodd gyda gorsaf radio ddeng mlynedd yn ôl, a chreu casgliad ychwanegol o stiwdios sy'n cael eu cynnal gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc ym maes theatr, sgriniau digidol a cherddoriaeth.

Rydyn ni'n teimlo'n gryf bod y gwaith yma hyd yn oed yn bwysicach nawr nag oedd e ddeng mlynedd yn ôl.

Penblwydd hapus iawn, a llawer ohonyn nhw, i'r cannoedd o bobl ifanc wych sydd wedi gwneud gwaith Radio Platfform a Chanolfan Mileniwm Cymru gyda phobl ifanc yr hyn yw e heddiw. Os hoffai unrhyw un yn y llywodraeth gael golwg ar sut rydyn ni'n gwneud pethau, mae'r drws ar agor unrhyw bryd.

Gallwch chi ein helpu ni i barhau i drawsnewid mwy o fywydau ifanc, meithrin doniau Cymreig a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gartref creadigol i bawb drwy wneud cyfraniad