Gall cân ein cludo ni 'nôl i ble glywson ni hi am y tro cyntaf... fel 'Peggy Sue' gan Buddy Holly yn 1957, y Four Seasons yn cyrraedd brig y siartiau yn 1962 gyda 'Sherry', gig hanesyddol The Kinks yn Theatr Capitol Caerdydd yn 1965 neu'r epig 'Somebody to Love' gan Queen yn 1976.
Neu efallai ei bod hi'n ein hatgoffa ni o berson yn ein bywydau oedd yn dwli ar gerddoriaeth, neu barti teulu bythgofiadwy.
Mae pedair sioe ar y ffordd gyda cherddoriaeth wych – dewch i hel atgofion gyda ni!
Buddy – The Buddy Holly Story 14–17 Mai
Bydd Buddy – The Buddy Holly Story yn gwneud i chi DEIMLO’N WYCH! Profwch y ddrama, angerdd a chyffro wrth i gast amldalentog o actorion-cerddorion adrodd stori Buddy Holly, o’i fagwraeth yn Texas i enwogrwydd rhyngwladol a’i berfformiad olaf hanesyddol yn y Surf Ballroom yn Clear Lake, Iowa, cyn ei farwolaeth drasig yn 22 oed.
Gyda dwy awr fendigedig o’r caneuon gorau a ysgrifennwyd erioed, gan gynnwys That’ll Be The Day, Oh Boy, Rave On, La Bamba, Chantilly Lace, Johnny B. Goode, Raining In My Heart, Everyday, Shout, Peggy Sue a llawer mwy, mae’r sioe yma yn un gwych!
THE CHOIR OF MAN 19–23 Mai
Croeso i The Choir of Man, y dafarn orau yn y byd… Dewch yn barod i fwynhau’r cyffro!
Yn llawn caneuon gan artistiaid fel Queen, Luther Vandross, Sia, Paul Simon, Adele, Guns & Roses, Avicii a Katy Perry i enwi ond ychydig, dyma dafarn fel nunlle arall!
Grŵp hynod dalentog o offerynwyr anhygoel, crefftwyr geiriau o’r radd flaenaf a chantorion penigamp, mae’r cast yma o naw perfformiwr arbennig yn cyflwyno popeth… yn fyw!
Sunny Afternoon – The Kinks Musical 26–30 Mai
Mae Sunny Afternoon yn dathlu egni crai, angerdd a sain ddiamser un o fandiau mwyaf eiconig Prydain, gan adrodd eu stori drwy gatalog anhygoel o ganeuon a gyrhaeddodd brif y siartiau, gan gynnwys You Really Got Me, Lola, ac All Day and All of the Night.
Wedi’i osod ym Mhrydain yn ystod y 60au gwrthryfelgar, mae Sunny Afternoon yn ddathliad bywiog ac emosiynol o gerddoriaeth, bywyd a’r band a newidiodd popeth.
JERSEY BOYS 11–22 Awst
Ewch y tu ôl i’r gerddoriaeth a thu mewn i stori Frankie Valli a’r Four Seasons yn y ffenomenon cerddorol am fywydau go iawn, Jersey Boys. O strydoedd New Jersey i Oriel Anfarwolion Roc a Rôl, dyma sioe gerdd arbennig.
Mae’r sioe yn cynnwys eu caneuon poblogaidd i gyd fel Sherry, Big Girls Don’t Cry, Walk Like A Man, Can’t Take My Eyes Off You, Beggin’, Oh What a Night a mwy.
Cofiwch – mae pob tocyn a brynwch yn ein helpu ni i drawsnewid mwy o fywydau ifanc, meithrin doniau Cymreig creadigol a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gartref i bawb.