Yn galw artistiaid a pherfformwyr cabaret lleol!
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn chwilio am artistiaid cabaret i gymryd rhan yn ei sioe cabaret Nadolig flynyddol a fydd yn cael ei chynnal yn y Stiwdio Weston 3–31 Rhagfyr 2024.
Rydyn ni’n chwilio am berfformwyr cabaret amlsgiliau, bwrlésg a syrcas/awyrgampwyr a brenhinoedd a breninesau drag sy’n gallu cydweithio o fewn tîm creadigol, rhannu syniadau a helpu gyda’r broses o ddyfeisio’r darn ymhellach, yn ogystal â pherfformio yn y cynhyrchiad.
Mae’r sioe eleni yn dathlu hunaniaethiau a chariad traws a chwiar, felly rydyn ni’n awyddus iawn i gwrdd ag artistiaid a pherfformwyr o’r cymunedau traws a chwiar yn yr ardal leol.
Bydd y sioe eleni yn cael ei chyfarwyddo gan Juliette Manon.
SUT I WNEUD CAIS
Anfonwch ddisgrifiad byr o’ch act, tâp arddangos o’ch gwaith ac efallai dolenni i’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth ac i fynegi eich diddordeb, anfonwch e-bost i artists@wmc.org.uk
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Sul 11 Awst 2024.
AMSERLEN Y CYNHYRCHIAD
2–6 Medi 2024: Wythnos o Ymchwil a Datblygu (Llun i Gwener)
28 Hydref–22 Tachwedd 2024: Pedair wythnos o ymarferion (Llun i Gwener)
25–30 Tachwedd 2024: Wythnos dechnegol (Llun i Gwener, penwythnosau hefyd o bosibl)
3–31 Rhagfyr 2024: Perfformiadau, 22 o sioeau yn y Stiwdio Weston
Bydd popeth uchod yn digwydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
DIWRNODAU GORFFWYS / DIWRNODAU HEB SIOE
- Dydd Llun 02/12/24
- Dydd Llun 09/12/24
- Dydd Llun 16/12/24
- Dydd Llun 23/12/24
- Dydd Mawrth 24/12/24
- Dydd Mercher 25/12/24
- Dydd Iau 26/12/24
- Dydd Llun 30/12/24