Yn 2024, gwnaeth Canolfan Mileniwm Cymru gefnogi’r llysgennad cymunedol Jude Price i gyflawni’r prosiect Nana Punk. Daeth y fenter ysbrydoledig yma â menywod o Dde Cymru ynghyd i archwilio eu potensial cerddorol a chysylltu â’i gilydd drwy rannu creadigrwydd a pherfformiadau byw.
Gan bartneru â The Cab yng Nghasnewydd, y cerddor Efa Supertramp a rhwydwaith o gerddorion o’r genhedlaeth pync wreiddiol, roedd Nana Punk yn dathlu pŵer cerddoriaeth i chwalu rhwystrau a meithrin cymuned.
Roedd Jude Price, cerddor a gweithwyr allgymorth cymunedol profiadol sy’n byw yng Nghaerdydd, wedi ystyried creu cymundod cerddoriaeth mewn ymateb i’r diffyg cyfleoedd creadigol i bobl dros 50 oed ers amser hir, a chysylltodd â Chanolfan Mileniwm Cymru gyda’r syniad ychydig cyn y pandemig. Ar ôl cael strôc yn 2023, gwnaeth cyfnod gwella Jude amlygu’r unigrwydd mae menywod hŷn yn ei wynebu, yn enwedig y rhai sydd â salwch cronig neu gyfrifoldebau gofal. Cafodd Nana Punk ei greu o’r cyfnod yma– menter feiddgar, wedi’i harwain gan fenywod, sy’n cynnig llinell gymorth o greadigrwydd a chysylltiad.
Gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, llwyddodd y prosiect i lansio yn ystod haf 2024 fel rhan o Llais, gŵyl gelfyddydau ryngwladol flynyddol Canolfan Mileniwm Cymru. Roedd yn gwahodd menywod o bob cefndir i danio eu chwilfrydedd cerddorol, datblygu hyder, dysgu sgiliau newydd a chreu cysylltiadau sy’n para.

'Mae’n awyrgylch calonogol iawn. Dydych chi ddim yn teimlo’n rhy hunanymwybodol na fel eich bod chi’n mynd i gael eich beirniadu, gallwch chi roi cynnig arni ac mae’n hwyl.'
AELOD O NANA PUNK
Yn y misoedd cyn Llais, gwnaethom ni gynnal gweithdai yn The Cab a llawer o leoliadau annibynnol eraill yng Nghasnewydd, gan gydweithio’n agos â Jude a 10 cherddor llawrydd. Roedd y sesiynau yn cynnwys artistiaid ysbrydoledig fel y band pync cwiar Menstrual Cramps, Cassie Fox o l’Doris a’r gantores bop-gwerin Efa Supertramp, a oedd yn rhan allweddol o hwyluso’r prosiect dwyieithog.
Ar draws 31 o weithdai, archwiliodd 17 o fenywod amrywiaeth eang o offerynnau, o gitâr a drymiau i fiola. Yna daeth band ymroddedig o 10 i’r amlwg, a oedd yn cwrdd yn wythnosol i wella eu sgiliau drwy ymarferion rheolaidd yng Nghasnewydd a Chaerdydd, gan grefftio caneuon dwyieithog gwreiddiol a chanu caneuon pync clasurol. Arweiniodd hyn at ddau berfformiad yn llawn egni ym mis Hydref yn Llais i dros 180 o bobl, wedi’u dilyn gan gig a werthodd allan ym mis Rhagfyr yn Hope and Anchor yn Llundain.

‘Rydyn ni'n cael amser da ac rydyn ni’n annog y gynulleidfa i ymuno, sef athroniaeth yr holl beth’
JUDE PRICE
Mae Nana Punk wedi cael effaith drawsnewidiol. Mae’r aelodau wedi sôn am eu sgiliau cerddorol a hyder newydd, ond hyd yn oed yn fwy dwfn, maen nhw wedi myfyrio ar ymdeimlad newydd o’u hunain, cysylltiad a llesiant. Gwnaethon nhw fwynhau’r cyfle i gwrdd â menywod tebyg, gan greu cysylltiadau drwy ddiddordebau roedden nhw’n eu rhannu a dysgu a thyfu gyda’i gilydd. Yn fwy na dim, roedden nhw’n dathlu’r ymdeimlad o lawenydd a chwarae a ddiffiniodd eu profiad, gan wneud Nana Punk nid yn unig yn daith greadigol, ond yn un hynod ddyrchafol.

'Roedd hi’n dda cael gofod / prosiect a oedd yn annog menywod dros 50 i ddod at ei gilydd a chreu gyda’i gilydd gyda diddordeb maen nhw’n ei rannu ...hefyd y rhannu rhwng pawb i helpu ein gilydd i ddysgu a datblygu.’
AELOD O NANA PUNK
Mae stori Nana Punk wedi cael sylw cenedlaethol, gydag S4C yn comisiynu rhaglen ddogfen am y prosiect, a fydd yn cael ei darlledu ym mis Mawrth 2025. Mae gan y grŵp gigiau eraill ar y ffordd, gan gynnwys perfformiad yn The Cab, ac maen nhw’n bwriadu rhyddhau EP. Hefyd, mae Nana Punk eisiau perfformio mewn gwyliau fel Blue Lagoon a Gŵyl y Dyn Gwyrdd, ac ehangu eu cyrhaeddiad drwy ffurfio cymundod agored swyddogol.
Drwy feithrin creadigrwydd a chysylltiad, nid yn unig mae Nana Punk wedi grymuso ei aelodau ond mae hefyd wedi cryfhau cysylltiadau rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a’r gymuned greadigol leol. Byddwn ni’n parhau i gefnogi Nana Punk ac rydyn ni’n llawn cyffro i weld beth fyddan nhw’n ei wneud yn y dyfodol.