Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Richard Coyle (Atticus Finch) in To Kill A Mockingbird. Photo by Johan Persson (2)

DEWCH I FYWIOGI EICH HYDREF

Efallai eich bod chi nawr yn mynd 'nôl i'ch trefnau arferol nawr bod yr haf drosodd, ond cofiwch ychwanegu ychydig o hud at eich cynlluniau hydrefol gyda nosweithiau clyd yn y theatr.

O ddrama arobryn a ffefrynnau teuluol i gelfyddydau syrcas a sioeau cerdd clasurol, rydyn ni'n sicr o gael rhywbeth a fydd yn eich temtio. 

War Horse

15–25 Hydref

Mae cynhyrchiad llwyddiannus y National Theatre yn brofiad theatraidd bythgofiadwy sy’n mynd â chynulleidfaoedd ar daith arbennig o gaeau gwledig Dyfnaint i ffosydd Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn seiliedig ar y nofel boblogaidd gan Michael Morpurgo, mae’r ddrama emosiynol a dychmygus yma, sy’n llawn cerddoriaeth a chaneuon cynhyrfus, yn sioe o ddyfeisgarwch rhyfeddol. 

Wrth ei gwraidd mae pypedau maint go iawn syfrdanol gan Handspring Puppet Company o Dde Affrica, sy’n dod â cheffylau sy’n anadlu, yn carlamu ac yn rhuthro yn fyw ar y llwyfan.

Dod o hyd i docynnau

Top Hat

11–15 Tachwedd

Yn seiliedig ar y ffilm o 1935 gyda Fred Astaire a Ginger Rogers. Byrlymol, cain a bywiogol, mae Top Hat yn goctel rhamantus cryf wedi’i addurno â dialog ffraeth, coreograffi syfrdanol, setiau helaeth a gwisgoedd godidog.

Mae sgôr hudolus Irving Berlin yn cynnwys rhai o ganeuon gorau Hollywood, fel Cheek to Cheek, Let’s Face the Music and Dance, Top Hat White Tie and Tails a Puttin’ on the Ritz.

Dod o hyd i docynnau

Christmas Carol Goes Wrong

18–22 Tachwedd

Mae’r Cornley Amateur Drama Society ‘nôl gyda newyddion da o lawenydd ac anhrefn, yn barod i fynd i’r afael â chlasur Charles Dickens.

Wrth iddyn nhw frwydro camfynegi, oedi i’r set, actorion coll a gelyniaeth gynyddol dros bwy fydd yn chwarae’r brif ran, mae’n siŵr o fod yn fersiwn trychinebus o’r stori Nadoligaidd boblogaidd am Ebenezer Scrooge. Mwynhewch ychydig o ddihangdod pur yn y cynhyrchiad gwaethaf o Nadolig y gorffennol, presennol ac eto i ddod! 

Dod o hyd i docynnau

To Kill a Mockingbird

25–29 Tachwedd

Mae’r actor llwyfan a sgrin llwyddiannus Richard Coyle yn serennu yn y cynhyrchiad eiconig yma o nofel arloesol Harper Lee fel Atticus Finch, gan ailchwarae’r rôl y cafodd llawer o ganmoliaeth amdani yng Nghynhyrchiad y West End yn 2022. Yn y ddrama ystafell llys yma, mae Atticus yn penderfynu datgelu’r gwir mewn tref sy’n ymddangos yn benderfynol o’i guddio.

Wedi’i osod yn Alabama yn 1934, cafodd y nofel eih ysbrydoli gan blentyndod Harper Lee ei hun. Mae wedi gwerthu dros 45 miliwn o gopïau ledled y byd ac roedd ar frig rhestrau llyfrau gwahareddig am amser hir.

Dod o hyd i docynnau

Mary Poppins

3 Rhagfyr – 10 Ionawr

Dewch â'r teulu cyfan i Cherry Tree Lane y Nadolig yma i fwynhau cynhyrchiad hudol Cameron Mackintosh a Disney. Mae'r stori berffaith yma am hoff nani'r byd yn cynnwys coreograffi disglair, effeithiau anhygoel a chaneuon bythgofiadwy.

Rydych chi'n sicr o gael amser cwbl arbennig! 

Dod o hyd i docynnau

Cabaret

Os hoffech chi rywbeth ychydig yn fwy anturus, Cabaret yw'r lle i chi. O strafagansas drag llawn egni ac actau comedi doniol i fwrlésg nwydus, bandiau byw a theatr gig avant-garde, ein llwyfan yw lle mae syrpreisys yn cwrdd â sbectaclau.

Mae rhaglen yr hydref yn cynnwys Stephen Bailey gyda'i sioe fyw newydd sbon Tart; ac I Screamed a Scream, cyngerdd sy'n cynnwys caneuon gan y dihirod gorau o'r llwyfan a'r sgrin.

Mwy o sioeau Cabaret

Profiadau Ymdrochol

Mae Ceci Est Mon Coeur yn waith ymdrochol sy’n archwilio stori gariad anarferol – plentyn yn derbyn ei gorff. Mae’r gynulleidfa, wedi’u lapio mewn dilledyn cysylltiedig wedi’i addurno â brodwaith disglair, yn cael eu hymgolli mewn profiad barddonol sy’n glywedol ac yn weledol.

Ac yn ein Stiwdio Wolfson, dewch ar antur realiti rhithwir epig i ewfforia rêf Acid House yn 1989 gyda dychweliad In Pursuit of Repetitive BeatsCamwch i mewn i raglen ddogfen gerddoriaeth ddirgrynol, yn llawn hiraeth a bas cryf, wrth i straeon hyrwyddwyr, swyddogion yr heddlu a rêfwyr ddod yn fyw, gan ddatgelu’r cystadlaethau a pherthnasau a oedd yn rhan o chwyldro diwylliannol.  

Am y tro cyntaf, bydd yr antur VR arobryn lwyddiannus yma yn cael ei chyflwyno fel profiad i’w rannu ar gyfer grwpiau o hyd at bedwar person, gan fynd â chi a'ch ffrindiau ‘nôl mewn amser i ddechrau diwylliant rêf y Deyrnas Unedig.

Mwy o straeon ymdrochol

Gormod o ddewis?

Edrychwch ar ein hopsiynau aelodaeth os ydych chi'n ymwelydd rheolaidd – mae'r manteision yn cynnwys blaenoriaeth wrth archebu, gostyngiad o 20% yn ein caffis a bariau a chynigion arbennig ar docynnau.