Gwahoddiad i gynnal digwyddiad cymunedol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Oes gennych chi syniad a allai ddod â phobl ynghyd drwy ddiwylliant, creadigrwydd a dathliad? Rydyn ni'n chwilio am grŵp neu sefydliad cymunedol i gymryd Cabaret drosodd ar gyfer digwyddiad arbennig ym mis Ionawr 2027.
Bob blwyddyn, rydyn ni’n ehangu cyfleoedd i gymunedau gamu i ganol y llwyfan, drwy gynnal digwyddiadau diwylliannol ystyrlon yn ein gofodau. Eleni bydd gyda ni gyfle ar gyfer un digwyddiad cymunedol:
Ym mis Ionawr, rydyn ni'n gwahodd ceisiadau i gynnal un digwyddiad dan arweiniad cymunedol yn Cabaret. Rydyn ni eisiau clywed eich syniadau ar gyfer digwyddiad sy'n adlewyrchu eich cymuned, creu cysylltiadau ystyrlon a rhoi rheswm i bobl ddod at ei gilydd.
AM BETH RYDYN NI'N CHWILIO
Rydyn ni'n agored i glywed syniadau ar gyfer digwyddiadau cymunedol o bob math. Dylai eich cynnig ddweud wrthym:
- Beth hoffech chi wneud
- Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad
- Sut fydd eich cymuned yn cymryd rhan
- Beth rydych chi'n gobeithio fydd pobl yn ei brofi yn y digwyddiad
Bydd y digwyddiad llwyddiannus yn cael ei gynnal yn Cabaret, ein gofod disglair ar gyfer doniau datblygol, eclectig ac amrywiol.
PRYD A BLE
Lleoliad: Cabaret
Dyddiadau sydd ar gael: 15 neu 16 Ionawr 2027
Bydd y dyddiad terfynol yn cael ei gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.
Gofynion
- DBS Safonol
- Dogfennau hawl i weithio
- Yswiriant priodol
- Asesiad risg
Cyllideb
£2,500
Dyddiad cau
28 Medi 2026
Rhoi gwybod i'r ymgeisydd llwyddiannus
2 Hydref 2026
Sut i wneud cais
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan artistiaid, unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.
I ymgeisio e-bostiwch community@wmc.org.uk gyda'ch cynnig.