Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Explore_Music_Production_-_Desk

ELEV8: yn dyrchafu Artistiaid Ifanc, yn llunio Dyfodol Cerddoriaeth Cymru

ELEV8: yn dyrchafu Artistiaid Ifanc, yn llunio Dyfodol Cerddoriaeth Cymru

O Demos Stiwdio i Senglau Cyntaf

ELEV8 yw'r man cychwyn ar gyfer artistiaid MOBO newydd o Gymru sydd rhwng 18 a 25 oed. Gwthia dy sain i'r lefel nesaf, dysga am y diwydiant, ac ymuna â chymuned greadigol sy'n cefnogi dy daith. 

Dysgu. Creu. Perfformio. 

Wyth mis, cyfleoedd diddiwedd.

Mentora, cynhyrchu ymarferol, preswylfeydd stiwdio, dosbarthiadau meistr, a chyfleoedd perfformio byw – gan gynnwys yn FOCUS Wales, gŵyl arddangos doniau ryngwladol Wrecsam. Erbyn diwedd y prosiect, bydd gen ti’r sgiliau, yr hyder a'r profiad i ryddhau dy gerddoriaeth i safon broffesiynol. 

 

Pam ELEV8? 

Pontio'r bwlch. Cael cefnogaeth. Adeiladu dy ddyfodol. 

  • Symud o greu demos bras i ryddhau gwaith proffesiynol. 

  • Hyrwyddo cerddoriaeth MOBO yng Nghymru. 

  • Dysgu sgiliau cynhyrchu, hunan-hyrwyddo a chyfryngau cymdeithasol. 

  • Magu momentwm a chael cefnogaeth barhaus. 

Mae ELEV8 yn dy rymuso i aros yn driw i dy ddoniau artistig di ac yn rhoi'r gefnogaeth i ti roi cychwyn ar dy daith gerddorol!  

 

Bydda’n rhan o’r gymuned 

Cydweithio a chyfle yn dod at ei gilydd. 
Ymuna â theulu ehangach ELEV8 i gydweithio ar draws genres, rhannu sgiliau, ac adeiladu cysylltiadau fydd yn para ymhell y tu hwnt i'r rhaglen. 

 

Digwyddiadau a Dosbarthiadau Meistr 

Dysgu gan y gorau. 
Sesiynau unigryw gyda chynhyrchwyr, sgowtiaid, ac artistiaid perfformio. Eleni, cyfle i brofi dosbarth meistr gyda DJ o Radio 1 Xtra, gyda chyngor gan y rhai sy’n deall perfformio, darlledu, a chysylltiad gyda'r gynulleidfa – ac arweiniad gan weithwyr proffesiynol eraill o’r diwydiant. 

 

 

Dyma'n Mentoriaid  

 

Abena (ADJUA) Mensah

Adjua, mentor

Artist R&B amgen o Gaerdydd yw Adjua, sy'n cyfuno llais llawn enaid gyda rhythmau jazz a dyfnder ysbrydol. Fel enillydd Gwobr Triskel yng Ngwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024, mae wedi perfformio yn SXSW (Texas a Llundain) a Glastonbury, gan berfformio sioeau byw eang ond agos atoch. 

 

Bruna Garcia

Bruna, mentor

Cantores-gyfansoddwraig 23 oed yw Bruna Garcia, sy'n dod ag egni newydd i sîn gerddoriaeth Cymru. Gan gyfuno R&B dechrau'r 2000au gyda'i gwreiddiau yn Cape Verde, mae ei sain llawn enaid wedi ennill slotiau gŵyl iddi yn Sŵn a Dinas Gerdd Caerdydd gyda BBC Introducing Live (Cymru), yn ogystal â sylw ar BBC Radio Wales. Mae Bruna wedi cael ei henwi'n un o'r Rhai i'w Gwylio gan Youth Music ar gyfer 2025 ac wedi cael cefnogaeth gan Gronfa Lansio Gorwelion y BBC, ac mae’n prysur ddod yn un o leisiau newydd mwyaf cyffrous Cymru. 

 

Nathan Misra

Nathan, mentor

Artist cerddorol, cynhyrchydd, a chyfarwyddwr creadigol yw Nathan Misra, a fe hefyd yw sylfaenydd Silkcrayon, label a stiwdio yng Nghaerdydd a sefydlwyd yn 2020. Ers ei sefydlu, mae Silkcrayon wedi dod yn ganolfan i artistiaid sy'n dod i'r amlwg ac sy'n ceisio creu cerddoriaeth a delweddau o'r ansawdd uchaf. Nathan hefyd yw sylfaenydd Silkfutures, sefydliad nid-er-elw sy'n ymroddedig i gefnogi artistiaid ifanc – nid yn unig yn eu gyrfaoedd cerddorol, ond i’w grymuso a'u tywys i adeiladu dyfodol disglair a chreadigol. 

 

Yasmine Latkowsi 

Yasmine, mentor

Cyfansoddwraig a pherfformwraig cyfryngau deinamig  yw Yasmine Latkowski, sy’n creu cerddoriaeth sy’n cyfuno synau o'r Dwyrain Canol, Cymru, a’r byd. Mae ei gwaith wedi cael sylw gan y Cenhedloedd Unedig, BBC Africa Eye, BBC Panorama, a National Theatre Wales, ac mae hi’n adnabyddus am fynd i’r afael â themâu cymdeithasol grymus drwy ei chyfansoddiadau. Gyda'i phrosiect newydd Panedeni, sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Yasmine yn pontio traddodiadau Arabeg, Saesneg a Chymraeg, gan ddod â pherfformiadau cyfareddol i lwyfannau fel Focus Wales a'r Eisteddfod Gydwladol.  

 

Andy Jones

Andy, mentor#

Andy Jones yw cyd-sylfaenydd a rhaglennydd cerddoriaeth FOCUS Wales, un o’r gwyliau arddangos doniau mwyaf yng ngwledydd Prydain. Gyda thros 20 mlynedd yn y diwydiant cerddoriaeth fel artist, pennaeth label, a hyrwyddwr, mae wedi gweithio ar recordiau newydd ledled Prydain, Ewrop, a Chanada. Bob blwyddyn, mae FOCUS Wales yn gweddnewid Wrecsam yn llwyfan byd-eang gyda 250+ o artistiaid a 25,000 o gefnogwyr. Mae Andy hefyd yn mynd â doniau Cymru i bedwar ban byd, gyda pherfformiadau yn SXSW, Reeperbahn, ESNS, a mwy. Mae Andy’n angerddol am hyrwyddo cerddoriaeth newydd, ac mae’n dod â phrofiad byd-eang a chyfleoedd newydd i'r genhedlaeth nesaf o artistiaid. 

 

Amserlen y Prosiect  

Dyddiad 

Gweithgaredd 

3 Hydref 2025 

Diwrnod Agored ELEV8 – Sesiwn gymdeithasol a jam agored byw 

 Tachwedd - Rhagfyr 2025  

 Cwrs Blasu Archwilio Cynhyrchu Cerddoriaeth 

 Rhagfyr 2025 

 Dewis y garfan + Diwrnod Croeso 

 Ionawr - Chwefror 2026 

Sesiynau Mentora 

 Chwefror 2026 (Hanner Tymor) 

Preswylfa Stiwdio Llundain  

 Mawrth – Ebrill 2026 

Ymarferion a Pharatoi ar gyfer Perfformiadau Byw 

Ebrill 2026 

Sesiwn Arddangos Doniau Gymunedol a chyfleoedd eraill i berfformio'n fyw   

Mai 2026 

Perfformiad FOCUS Wales + Parti Cloi 

 

Ein gofod ni 

Creu, recordio, perfformio. 
Mae sesiynau ELEV8 yn digwydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd ac mewn stiwdios gydag offer ardderchog yn ardal Bae Caerdydd. Hefyd, bydd preswylfa stiwdio ddwys yn Brixton, Llundain yn cynnig profiad ymarferol gyda chynhyrchwyr o'r radd flaenaf a blas o sîn gerddoriaeth gwledydd Prydain. 

Cadwa mewn cysylltiad 

Paid colli allan ar y diweddaraf. 
Dilyna ni ar y cyfryngau cymdeithasol, ymuna â'n rhestr bostio, a bydda ymhlith y cyntaf i gael clywed am geisiadau, sesiynau arddangos doniau, a chyfleoedd newydd. 

Cofrestra yma! 

Dilyna ni: @platfform.wmc