Cyhoeddwyd heddiw mai Colored (Noire) gan Novaya yw enillydd cyntaf Gwobr Annwn mewn seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a gyflwynwyd gan y darlledwr Alex Jones.
Cadeirydd y Beirniaid Peter Swinburn gyhoeddodd enw'r enillydd a fydd yn cael £20,000 ynghyd â phreswylfa bwrpasol i gefnogi datblygiad gwaith newydd.
Estynnodd y rheithgor eu llongyfarchiadau i'r pedwar artist oedd ar y rhestr fer am eu huchelgais, eu gwreiddioldeb a'u dulliau arloesol o adrodd straeon, gan adlewyrchu ehangder a chyrhaeddiad byd-eang gwaith ymdrochol sy'n cael ei yrru gan straeon ar hyn o bryd.
Dyfarnodd y rheithgor y wobr i Colored (Noire) gan Novaya, wedi’i greu gan Pierre-Alain Giraud, Stéphane Foenkinos a Tania De Montaigne, sy’n cyfuno celfyddydau byw, straeon digidol a thechnoleg arloesol i greu gwaith realiti estynedig sy’n cael ei yrru gan naratif. Canmolodd y rheithgor effaith emosiynol pwerus a manylder technegol arbennig y gwaith, a’i allu i osod cynulleidfaoedd o fewn y stori.
Mae Colored (Noire) yn brofiad realiti estynedig (AR) ymdrochol sy'n cludo cynulleidfaoedd i Alabama'r pumdegau yng nghanol y mudiad hawliau sifil. Gyda phensetiau AR a sain sy'n dargludo drwy'r asgwrn, mae cyfranogwyr yn camu i mewn i’r stori fel gwylwyr – yn gallu dewis eu hagosrwydd a’u persbectif, nid i newid hanes, ond i benderfynu sut maen nhw’n ei wylio’n datblygu.
Mae’r profiad yn ail-fyw gweithred ddewr Claudette Colvin bymtheg oed, a wrthododd ildio ei sedd ar fws, a hynny naw mis cyn Rosa Parks. Yn fuan cyn iddi farw yn gynharach eleni, rhannodd Colvin neges â’r artistiaid sy’n atseinio drwy’r gwaith: “Ble bynnag ydych chi, peidiwch byth â rhoi’r gorau iddi a brwydrwch ‘nôl bob tro.”
Gwobr Annwn yw'r wobr fyd-eang gyntaf sy'n dathlu rhagoriaeth mewn gwaith adrodd straeon ymdrochol, gan gydnabod gweithiau sy'n gosod cynulleidfaoedd yng nghanol y naratif ac yn gwthio ffiniau'r ffordd mae straeon yn cael eu profi.
O dan gadeiryddiaeth Cadeirydd Canolfan Mileniwm Cymru, Peter Swinburn, mae rheithgor Gwobr Annwn 2026 yn cynnwys yr artist, y gwneuthurwr ffilmiau a'r cerddor Larry Achiampong; y beirniad a'r awdur Arifa Akbar; yr arweinydd ym myd diwylliant a'r diwydiannau creadigol Syr Peter Bazalgette; y cerddor a'r ysgogwr cymunedol Charlotte Church; a'r awdur-gyfarwyddwr Charlotte Regan.
“Mae Colored (Noire) yn ddarn o waith sy’n aros gyda chi – stori am y galon a’i chanlyniadau na allem stopio meddwl amdani yn hir ar ôl ei phrofi. Drwy ddefnydd arbennig o fanylder technegol, mae’r gwaith yn eich gosod chi ochr yn ochr â’r cymeriadau, gan ganiatáu i chi gerdded gyda nhw a thystio rhywbeth hynod emosiynol sy’n cael ei wireddu mewn ffordd brydferth. Yn ei hanfod, mae adrodd straeon yn ymwneud ag empathi, ac yma mae’r empathi hwnnw yn ddiamod – wedi’i blethu’n ddiymdrech â thechnoleg arloesol i greu profiad sy’n ymdrochol ac yn fythgofiadwy.”
Peter Swinburn, cadeirydd y beirniaid
Roedd y rhestr fer gyntaf yn dod â phedwar gwaith ynghyd o Ffrainc, Gwlad Groeg, Gwledydd Prydain ac Unol Daleithiau America, gan gwmpasu realiti estynedig, ffilm ganghennog, sinema estynedig a gosodwaith rhyngweithiol. Y gweithiau eraill ar y rhestr fer oedd: Consensus Gentium gan Karen Palmer; Constantinopoliad gan Sister Sylvester; NOWISWHENWEARE (the stars) gan Andrew Schneider.
“Mae’r rhestr fer gyntaf wedi dangos ehangder ac uchelgais rhyfeddol artistiaid sy’n gweithio yn y maes yma. Mae'r Wobr yn nodi trobwynt pwysig wrth gydnabod gwaith adrodd straeon ymdrochol fel ffurf ar gelf esblygol a hanfodol, ac wrth hyrwyddo artistiaid sy'n ailddiffinio sut mae straeon yn cael eu profi. Edrychwn ymlaen at gefnogi Novaya i ddatblygu gwaith newydd drwy breswylfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru dros y flwyddyn nesaf.”
Graeme Farrow, Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys Canolfan Mileniwm Cymru
Dewiswyd y gwaith buddugol fel rhan o arddangosfa fawr o'r gweithiau a gafodd eu rhoi ar y rhestr fer yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a fydd yn rhedeg tan 26 Mehefin. Archebwch eich tocynnau nawr.
Cefnogir Gwobr Annwn gan Peter a Janet Swinburn.