Mae Cabaret Nadolig yn dod... ac rydyn ni’n chwilio am berfformwyr.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn castio ar gyfer ei chynhyrchiad Cabaret Nadolig, sioe newydd sbon wedi’i gosod mewn tref glan y môr gyfarwydd iawn, lle mae’r trigolion yn gymeriadau mawr, mae’r straeon yn gofiadwy... ac os rydych chi’n gwybod, chi’n gwybod.
Mae’r cynhyrchiad yn galw am gymeriadau beiddgar, comedi siarp ac eiliadau bythgofiadwy, gydag ychydig o glamor glan y môr, wedi’i gyflwyno drwy cabaret cyflym sy’n cyfuno bwrlésg, drag, meimio, comedi a pherfformiadau wedi’u harwain gan gymeriadau.
Rydyn ni’n chwilio am berfformwyr rolau unigol neu niferus, dyw profiad o rolau niferus ddim yn hanfodol ond yn ddymunol.
Nodwch: mae’r cyfle yma yn agored i berfformwyr sy’n byw yng Nghaerdydd a De Cymru yn unig.
Mae gennym ddiddordeb penodol mewn perfformwyr sydd â’r canlynol:
- Profiad bwrlésg neu drag
- Sgiliau perfformio cymeriad cryf
- Amseru comedi rhagorol
- Y gallu i berfformio ‘lip sync’
- Sgiliau symud neu ddawnsio
- Profiad o lwyfan cabaret
Rydyn ni’n croesawu perfformwyr o bob cefndir a hunaniaeth.
Rolau
Rydyn ni’n castio ensemble bach o chwe pherfformiwr a fydd yn chwarae sawl rôl, wedi’u hysbrydoli gan fyd o bersonoliaethau bythgofiadwy, drygioni glan y môr a nosweithiau allan mae pobl yn dal i siarad amdanyn nhw.
Rydyn ni’n agored i berfformwyr rolau unigol neu rolau niferus. Mae profiad o rolau niferus yn ddymunol ond ddim yn hanfodol.
Ymarferion a Pherfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
- Ymarferion: 23 Tachwedd – 5 Rhagfyr 2026 (Caerdydd)
- Wythnos Dechnegol: 7–12 Rhagfyr 2026 (Caerdydd)
- Perfformiadau: 9 Rhagfyr 2026 – 2 Ionawr 2027 (Stiwdio Weston) 13 o berfformiadau
Ffioedd
Bydd ffioedd yn unol â chyfraddau perfformwyr UK Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Ymgeisio
Dylid anfon ceisiadau i cabaret@wmc.org.uk a chynnwys:
- Cyflwyniad byr am eich hun
- CV neu fywgraffiad perfformio
- Dolenni i fideos
- Llun diweddar
Dyddiad Cau: 8 Mai 2026